Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 21/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-876 Amddiffyn rhywogaethau rhestredig Coch ac Amber yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol
Cymru i ofyn am farn y sefydliad ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb. |
|
P-05-877 Cynllun gwisgoedd ysgol ail-law i blant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu at y canlynol: ·
Plant yng
Nghymru i'w hysbysu ynghylch cynnig am gynllun gwisgoedd ysgol ail-law yng
nghyd-destun y canllawiau y maent yn eu llunio mewn perthynas â chost diwrnod
ysgol, ac i ofyn am eu barn ynghylch pa mor y graddau y gellid gweithredu’r
cynllun; a ·
Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru i ofyn beth yw'r sefyllfa ynglŷn â pholisïau gwisg
ysgol a ddefnyddir ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru. |
|
P-05-878 Rhaid cau’r drws yn glep ar wastraffu ynni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu at y canlynol: ·
Consortiwm
Manwerthu Cymru i ofyn am eu barn mewn perthynas â'r materion a godwyd gan y
ddeiseb, a gofyn am wybodaeth am y camau perthnasol sy'n cael eu cymryd gan ei
aelodau; a ·
y prif
archfarchnadoedd i ofyn am eu barn ar y ddeiseb. |
|
P-05-879 Dylid ychwanegu addysg iechyd meddwl at y cwricwlwm addysgu gorfodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu at y canlynol: ·
y Gweinidog
Addysg i drafod y pwyntiau ychwanegol a godwyd gan y deisebydd a gofyn: o
am
wybodaeth bellach o ran sut y dylai disgyblion allu cael mynediad at
wasanaethau cwnsela mewn ysgolion; o
sut mae
iechyd meddwl a lles disgyblion yn cael ei gynnwys mewn hyfforddiant athrawon a
datblygiad proffesiynol parhaus; ac o
i gael
rhagor o wybodaeth am sut y caiff addysg iechyd meddwl ei chynnwys yn y
cwricwlwm ABCh cyfredol; ·
y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w hysbysu ynghylch y ddeiseb hon yng nghyd-destun
eu gwaith craffu parhaus ar les emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc a'r
cwricwlwm newydd; ·
Prifysgolion
Cymru sy'n darparu hyfforddiant athrawon i ofyn beth sydd wedi'i gynnwys yn eu
rhaglenni hyfforddi sy'n ymwneud ag iechyd meddwl plant a phobl ifanc. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y deisebwyr a chytunodd i rannu
tystiolaeth y deisebydd gyda'r Gweinidog Addysg a gofyn iddi weithio gyda'r
Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar (NDCS) Cymru i weithredu’n unol â'u
hargymhellion. Wedi hynny, cytunodd y pwyllgor i gau'r ddeiseb. |
|
P-05-832 Diwygio’r Cod Derbyn i Ysgolion ynghylch Plant a Anwyd yn ystod yr Haf Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y
Gweinidog Addysg er mwyn: ·
gofyn am
fanylion unrhyw ganfyddiadau o'i gwaith ymgysylltu gydag awdurdodau lleol ar y
mater hwn; ·
gofyn am
unrhyw gasgliadau sy'n dod i'r amlwg yn sgil yr adolygiad o'r Cod Derbyn i
Ysgolion mewn perthynas â cheisiadau i ohirio mynediad i blant a aned yn yr
haf; a ·
gofyn pryd
y bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cod Derbyn i Ysgolion yn dechrau. |
|
P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am
gyhoeddiad yr Archwiliad Diogelwch Ffyrdd 36 mis cyn penderfynu a ddylid cymryd
camau gweithredu pellach. |
|
P-05-838 Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd Liniaru’r M4 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb, ynghyd â P-05-850 Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal
traffordd arfaethedig yr M4, a chytunodd i drafod y ddwy ddeiseb eto ar 11
Mehefin o gofio cynnig y Prif Weinidog y byddai'n gallu cyhoeddi penderfyniad
yn ystod wythnos gyntaf mis Mehefin. |
|
P-05-850 Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal traffordd arfaethedig yr M4 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb, ynghyd â P-05-838 Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd
Liniaru’r M4, a chytunodd i drafod y ddwy ddeiseb eto ar 11 Mehefin o gofio
cynnig y Prif Weinidog y byddai'n gallu cyhoeddi penderfyniad yn ystod wythnos
gyntaf mis Mehefin. |
|
P-05-851 Dileu’r cyfyngiadau amser ar y gilfan i’r dwyrain o Grucywel Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Sir
Powys i ofyn am eu barn ar y ddeiseb a’r ddarpariaeth parcio yng Nghrucywel a'r
cyffiniau. |
|
P-05-853 Na i gau Cyffordd 41 o gwbl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i gadw golwg ar y mater a
gofyn am ddiweddariad pellach ymhen chwe mis, neu'n gynt os bydd y sefyllfa'n
newid. |
|
P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad – dylid adolygu TAN 1 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i wahodd
y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i fynychu sesiwn dystiolaeth gyda'r Pwyllgor
yn y dyfodol i drafod hyn a sawl deiseb arall yn ymwneud â pholisi cynllunio. |
|
P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd
Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n
gyn-ddefnyddiwr gwasanaeth Families Need Fathers/Both Parents Matter Cymru ac
mae wedi cyflogi'r prif ddeisebydd o'r blaen. Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i dderbyn
cynnig Cafcass Cymru o ddarparu copi o'i ganllawiau ymarfer yn dilyn ei lansio. |
|
P-05-812 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog ymddiriedolaethau i weithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am ei farn ynghylch y
ddeiseb.
|
|
P-05-817 Aelodau prosthetig arbenigol i blant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn: ·
am
ddiweddariad am ei fwriadau mewn perthynas ag argaeledd prostheteg chwaraeon yn
y dyfodol, ·
am ei
amserlenni disgwyliedig ar gyfer ystyried achos busnes llawn ar y mater hwn, ac
i ofyn am gopi o'r achos busnes ar ôl iddo gael ei gwblhau; ac ·
a yw
Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o ymchwil i ddatblygiad neu addasrwydd argraffu
3D at y diben hwn, neu a yw wedi cefnogi ymchwil o’r fath. |
|
P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn: ·
gofyn am
ddiweddariad ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru a Bwrdd Wroleg Cymru i
sicrhau bod Canllaw terfynol NICE ar ganser y brostad yn cael ei weithredu
ledled Cymru; a ·
gofyn i
ystyriaeth gael ei rhoi i'r ateb dros dro a gynigiwyd gan y deisebydd i alluogi
cleifion i gael mynediad at gyfleusterau sganio preifat tra bod capasiti ac
offer yn cael eu cronni yn y GIG. |
|
P-05-866 Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis - Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol i rannu manylion am y ddeiseb a'r dystiolaeth a
gafwyd hyd yma, a gofyn a oes gan y Pwyllgor unrhyw gynlluniau i edrych ar y
pwnc hwn. |
|
P-05-743 Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd
Janet Finch-Saunders y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae hi wedi
bod yn rhan o'r diwydiant anifeiliaid anwes o'r blaen. Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn pryd y bydd y broses o ddiweddaru’r
codau ymarfer presennol ar gyfer lles anifeiliaid, a datblygu codau ymarfer
newydd yn ôl y gofyn, wedi'i chwblhau. |
|
P-05-822: Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ysgrifennu
at WRAP Cymru i ofyn am ei farn ar y ddeiseb; ac ·
aros hyd
nes cyhoeddi'r adroddiad gwerthuso ar yr ymarfer peilot diweddar yn Sir Benfro. |
|
P-05-868 Diogelwch Dŵr/Atal Boddi ac effeithiau Sioc Dŵr Oer i'w haddysgu ym mhob Ysgol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at y
Gymdeithas Frenhinol er Achub Bywydau i ofyn am ragor o wybodaeth ynghylch y
gwaith sy'n cael ei wneud i ddatblygu Cynllun Diogelwch Dŵr i Gymru a sut
y gallai gefnogi datblygiad cyfleoedd nofio diogel yn yr awyr agored. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Eitem 5 Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig. |
|
Cymhwystra ar gyfer llofnodi deisebau Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor bapur am gymhwystra ar gyfer llofnodi deisebau i'r Cynulliad. Mewn
ymateb i rai pryderon a godwyd gyda'r Pwyllgor, trafododd yr Aelodau p’un a
ddylai pobl sy'n byw y tu allan i Gymru barhau i allu llofnodi deisebau. Penderfynodd
y Pwyllgor beidio gosod unrhyw gyfyngiadau ar allu pobl i lofnodi deisebau, yng
nghyd-destun newidiadau diweddar eraill a wnaed i'r rheolau sy'n ymwneud â
chyflwyno deisebau a chasglu llofnodion. Mewn
perthynas â deisebau gyda dros 5000 o lofnodion, cytunodd yr Aelodau i ystyried
nifer y llofnodion a gasglwyd yng Nghymru wrth benderfynu p’un a ddylid gofyn
am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn yn y dyfodol. |