Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 184(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1 -3 a 5 –
8. Tynnwyd
cwestiwn 4 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.17 Gofynnwyd
y 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
Cwestiynau Amserol Ni dderbynniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol Cofnodion: Ni
ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol |
||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.07 Gwnaeth
David Rowlands ddatganiad am coffáu’r 140 o flynyddoedd ers Brwydr Rorke’s
Drift. Gwnaeth
Dawn Bowden ddatganiad am Diwrnod Cofio'r Holocost 2019 (27 Ionawr 2019). |
|||||||||
(60 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Aelod ar Hawliau Pobl Hŷn NDM6940
Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91: Yn cytuno y caiff
Darren Millar AC gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys
yn y Memorandwm Esboniadol a gyhoeddwyd
ar 14 Rhagfyr 2018 o dan Reol Sefydlog 26.91A. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.11 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6940
Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91: Yn
cytuno y caiff Darren Millar AC gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a
gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyhoeddwyd ar 14 Rhagfyr 2018 o dan
Reol Sefydlog 26.91A. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Pensiynau Allied Steel and Wire NDM6919 Bethan
Sayed (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi nad yw cyn-weithwyr
Allied Steel and Wire wedi cael gwerth llawn eu pensiynau o hyd, er gwaethaf
cytundeb iawndal a gytunwyd yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y DU a bron 14
mlynedd ar ôl newid yng nghyfraith y DU. 2. Yn nodi bod
gweithwyr, o dan gytundeb iawndal a gytunwyd yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol
y DU, wedi cael addewid o union yr un driniaeth â gweithwyr a deiliaid cynllun
pensiwn o dan y gronfa diogelu pensiynau a'r cynllun cymorth ariannol. 3. Yn nodi bod
gan weithwyr, yn sgil newidiadau
yn y gyfraith ers 2004, o dan y gronfa diogelu pensiynau a'r cynllun cymorth
ariannol, yr hawl i gael eu talu hyd at 90 y cant o werth eu cyfraniad pensiwn.
Fodd bynnag, nid yw cyfraniadau a dalwyd cyn 1997 wedi'u diogelu rhag
chwyddiant. 4. Yn gresynu at y
caledi ariannol y mae hyn wedi'i achosi i gyn-weithwyr ASW yng Nghymru. 5. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i anrhydeddu ysbryd yr ymrwymiadau a wnaeth Llywodraeth
flaenorol y DU i weithwyr ASW yng Nghymru. Cefnogwyd gan: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.59 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6919
Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod cyn-weithwyr Allied Steel and Wire dal heb gael gwerth llawn eu
pensiynau, er gwaethaf cytundeb iawndal a gytunwyd yn 2007 gyda Llywodraeth
flaenorol y DU a bron 14 mlynedd ar ôl newid yng nghyfraith y DU. 2.
Yn nodi o dan cytundeb iawndal a gytunwyd yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y
DU, addawyd yr un driniaeth i weithwyr â gweithwyr a deiliaid cynllun pensiwn o
dan y gronfa diogelu pensiynau a'r cynllun cymorth ariannol. 3.
Yn nodi yn sgil newidiadau yn y gyfraith ers 2004, o dan y gronfa diogelu
pensiynau a'r cynllun cymorth ariannol fod gan weithwyr yr hawl i gael eu talu
hyd at 90 y cant o werth eu cyfraniad pensiwn. Fodd bynnag, nid yw cyfraniadau
a dalwyd cyn 1997 wedi'u diogelu rhag chwyddiant. 4.
Yn gresynu at y caledi ariannol y mae hyn wedi'i achosi i gyn-weithwyr ASW yng
Nghymru. 5.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i anrhydeddu ysbryd yr ymrwymiadau a wnaeth
Llywodraeth flaenorol y DU i weithwyr ASW yng Nghymru. Cefnogwyd gan: Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyfraddau Treth Imcwm Cymru NDM6921
Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod
pwysigrwydd hanfodol denu pobl, busnesau a buddsoddiad i Gymru fel modd o dyfu
refeniw treth yng Nghymru. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ymrwymo i beidio â chodi Cyfraddau Treth Incwm Cymru am
weddill y Pumed Cynulliad. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu ar ddiwedd
pwynt 1: 'ond yn pwysleisio
blaenoriaethu sicrhau twf economaidd a chynnydd mewn refeniw drwy gefnogi
busnes cynhenid.' Gwelliant
2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu pwynt 2 ac yn ei
le rhoi: Yn annog trafodaeth
sifig aeddfed ynglyn â sut orau i ddefnyddio pwerau trethiannol datganoledig
newydd er budd economaidd a chymdeithasol Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.35 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6921 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd
hanfodol denu pobl, busnesau a buddsoddiad i Gymru fel modd o dyfu refeniw
treth yng Nghymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ymrwymo i beidio â chodi Cyfraddau Treth Incwm Cymru am weddill y Pumed
Cynulliad.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.29 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6941
Janet
Finch-Saunders (Aberconwy) Manteisio ar ddyddiau
glawog. Sut y gellid gwneud
mwy o ddefnydd o law yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.31 NDM6941
Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Manteisio
ar ddyddiau glawog. Sut
y gellid gwneud mwy o ddefnydd o law yng Nghymru. |