NDM6919 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

NDM6919 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

NDM6919 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi nad yw cyn-weithwyr Allied Steel and Wire wedi cael gwerth llawn eu pensiynau o hyd, er gwaethaf cytundeb iawndal a gytunwyd yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y DU a bron 14 mlynedd ar ôl newid yng nghyfraith y DU.

2. Yn nodi bod gweithwyr, o dan gytundeb iawndal a gytunwyd yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y DU, wedi cael addewid o union yr un driniaeth â gweithwyr a deiliaid cynllun pensiwn o dan y gronfa diogelu pensiynau a'r cynllun cymorth ariannol.

3. Yn nodi bod gan weithwyr, yn sgil newidiadau yn y gyfraith ers 2004, o dan y gronfa diogelu pensiynau a'r cynllun cymorth ariannol, yr hawl i gael eu talu hyd at 90 y cant o werth eu cyfraniad pensiwn. Fodd bynnag, nid yw cyfraniadau a dalwyd cyn 1997 wedi'u diogelu rhag chwyddiant.

4. Yn gresynu at y caledi ariannol y mae hyn wedi'i achosi i gyn-weithwyr ASW yng Nghymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i anrhydeddu ysbryd yr ymrwymiadau a wnaeth Llywodraeth flaenorol y DU i weithwyr ASW yng Nghymru.

 

Cefnogwyd gan:
Andrew RT Davies (Canol De Cymru)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Leanne Wood (Rhondda)
David Rees (Aberavan)

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/06/2021

Angen Penderfyniad: 23 Ion 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd