Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 148(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13:30 Gofynnwyd cwestiynau 1-6
a chwestiynau 9-11. Ni ofynnwyd cwestiwn 7. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl. Atebwyd
cwestiwn 2 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar
ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 3. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.15 Gofynnwyd cwestiynau 2-7
, 9 a 10. Tynnwyd cwestiynau 1 ac 8 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 7 gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal
Cymdeithasol. Gwahoddodd y Dirprwy Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 3. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 muned) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.59 Ni ddewiswyd unrhyw
Gwestiynau Amserol |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.59 Gwnaeth Mike Hedges
ddatganiad ar Ddathlu 70 mlynedd ers cyflwyno'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog i ganiatáu i’r eitem fusnes nesaf gael ei hystyried Dechreuodd yr eitem am 15.00 Yn unol â Rheol Sefydlog
12.44, canwyd y gloch am 15.02 a gohiriwyd y cyfarfod gan ailgynnull am 15.07. NDM6754 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a
33.8: Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog
11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog
11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos
ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM6753 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn
ddydd Mercher, 27 Mehefin 2018. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Gan
i’r Cynnig gael ei gefnogi gan ddau draean o’r Aelodau a bleidleisiodd,
cytunwyd ar y Cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar NNDM6753 - Ysgrifennydd Gwladol Cymru NNDM6753
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn datgan nad oes ganddo bellach
hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gyflawni proseictau seilwaith mawr, yn
dilyn penderfyniad Llywodraeth San Steffan i beidio â chefnogi morlyn llanw Bae
Abertawe. 2. Yn datgan nad oes ganddo
hyder yn swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac yn credu y dylai’r swydd gael ei
dileu a’i disodli gan gyngor Gweinidogion y DU, wedi’i gyfansoddi’n briodol
gyda phwerau cyfartal i wneud penderfyniadau ar y cyd. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Julie James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth ar ôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru a rhoi yn
ei le: 1. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i fuddsoddi
mewn prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru, gan gynnwys Morlyn Ynni’r Llanw Bae
Abertawe a thrydaneiddio’r brif linell rhwng Caerdydd ac Abertawe. 2. Yn gresynu at fethiant Ysgrifennydd Gwladol Cymru i
ddadlau achos Cymru ac i gefnogi’r angen am ragor o fuddsoddiad gan Lywodraeth
y DU mewn prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru. 3. Yn credu: a) bod rhaid sicrhau rhagor o gydweithredu sy’n fwy
cynaliadwy rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig; b) bod angen diwygio peirianwaith rhynglywodraethol y DU
gan sefydlu cyngor Gweinidogion newydd ar gyfer y DU, gydag ysgrifenyddiaeth
annibynnol, er mwyn atgyfnerthu’r cydweithio a’r broses o wneud penderfyniadau.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant
2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cyflawniadau sylweddol Ysgrifennydd Gwladol
Cymru, sy'n cynnwys: a) y cytundeb â Llywodraeth Cymru ar fframwaith cyllidol
hanesyddol; b) diddymu tollau'r pontydd Hafren; c) buddsoddiad sylweddol mewn bargeinion dinesig a
bargeinion twf rhanbarthol ledled Cymru; a d) y cyhoeddiad diweddar ynghylch negodiadau pellach i
ddatblygu ac adeiladu gorsaf niwclear newydd yn Wylfa Newydd. 2. Yn nodi anallu Llywodraeth Cymru i ddarparu cynnydd ar
brosiectau seilwaith mawr ledled Cymru, yn dilyn ei phenderfyniad i wrthod
Cylchffordd Cymru a'i methiant parhaus i gyflawni gwelliannau i'r M4, yr A40
a'r A55. 3. Yn credu bod swydd a swyddfa Ysgrifennydd Gwladol
Cymru yn hanfodol o ran cynrychioli buddiannau Cymru ar lefel Llywodraeth y DU. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.07 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NNDM6753 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn datgan nad oes ganddo bellach hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru i
gyflawni prosiectau seilwaith mawr, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth San
Steffan i beidio â chefnogi morlyn llanw Bae Abertawe. 2. Yn datgan nad oes ganddo hyder yn swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac yn
credu y dylai’r swydd gael ei dileu a’i disodli gan gyngor Gweinidogion y DU,
wedi’i gyfansoddi’n briodol gyda phwerau cyfartal i wneud penderfyniadau ar y
cyd.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth ar ôl
Cynulliad Cenedlaethol Cymru a rhoi yn ei le: 1. Yn gresynu at
fethiant Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith mawr yng
Nghymru, gan gynnwys Morlyn Ynni’r Llanw Bae Abertawe a thrydaneiddio’r brif
linell rhwng Caerdydd ac Abertawe. 2. Yn gresynu at fethiant
Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ddadlau achos Cymru ac i gefnogi’r angen am ragor
o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU mewn prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru. 3. Yn credu: a) bod rhaid sicrhau
rhagor o gydweithredu sy’n fwy cynaliadwy rhwng Llywodraeth y DU a’r
llywodraethau datganoledig; b) bod angen diwygio
peirianwaith rhynglywodraethol y DU gan sefydlu cyngor Gweinidogion newydd ar
gyfer y DU, gydag ysgrifenyddiaeth annibynnol, er mwyn atgyfnerthu’r cydweithio
a’r broses o wneud penderfyniadau. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2
ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NNDM6753 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at
fethiant Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith mawr yng
Nghymru, gan gynnwys Morlyn Ynni’r Llanw Bae Abertawe a thrydaneiddio’r brif
linell rhwng Caerdydd ac Abertawe. 2. Yn gresynu at fethiant
Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ddadlau achos Cymru ac i gefnogi’r angen am ragor
o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU mewn prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru. 3. Yn credu: a) bod rhaid sicrhau
rhagor o gydweithredu sy’n fwy cynaliadwy rhwng Llywodraeth y DU a’r
llywodraethau datganoledig; b) bod angen diwygio
peirianwaith rhynglywodraethol y DU gan sefydlu cyngor Gweinidogion newydd ar
gyfer y DU, gydag ysgrifenyddiaeth annibynnol, er mwyn atgyfnerthu’r cydweithio
a’r broses o wneud penderfyniadau.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Adeiladu tai lesddaliad preswyl NDM6671
Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil
i: a) rhoi terfyn ar adeiladu tai
lesddaliad preswyl yng Nghymru; a b) gwella ymwybyddiaeth
defnyddwyr o oblygiadau deiliadaeth lesddaliad. 2. Yn nodi mai diben y Bil
fyddai: a) gosod dyletswydd ar
awdurdodau lleol yng Nghymru i wrthod pob cais cynllunio ar gyfer datblygiadau
tai lesddaliad preswyl; a b) gosod dyletswydd ar
asiantwyr gwerthu a rheoli i ddarparu gwybodaeth am oblygiadau cytundebau
lesddaliad i ddarpar brynwyr eiddo lesddaliad sy'n bodoli eisoes. Cefnogwyr: Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.04 NDM6671 Mick Antoniw (Pontypridd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i: a) rhoi terfyn ar adeiladu tai lesddaliad preswyl yng Nghymru; a b) gwella ymwybyddiaeth defnyddwyr o oblygiadau deiliadaeth lesddaliad. 2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai: a) gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol yng Nghymru i wrthod pob cais
cynllunio ar gyfer datblygiadau tai lesddaliad preswyl; a b) gosod dyletswydd ar asiantwyr gwerthu a rheoli i ddarparu gwybodaeth am
oblygiadau cytundebau lesddaliad i ddarpar brynwyr eiddo lesddaliad sy'n bodoli
eisoes. Cefnogwyr: Jane Hutt (Bro Morgannwg) Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Ddeisebau P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf a P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig NDM6747
David J. Rowlands (Dwyrain
De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Deisebau ar ddeiseb P-04-472, 'Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn
ddeddf a Deiseb P04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo
Brig - Crynodeb o’r ystyriaeth', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.29 NDM6747 David J. Rowlands (Dwyrain De
Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddeiseb P-04-472, 'Gwnewch y Nodyn
Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf a Deiseb P04-575 Galw i Mewn Pob Cais
Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig - Crynodeb o’r ystyriaeth', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2018. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Ynni hydrogen NDM6750
Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r adroddiad,
‘Potensial hydrogen yn y datgarboneiddio o drafnidiaeth yng Nghymru’, a
gyhoeddwyd gan Simon Thomas AC. 2. Yn nodi bwriad datganedig
Llywodraeth Cymru i adeiladu ar sgiliau ac arbenigedd i arwain y Deyrnas
Gyfunol mewn ymchwil a datblygiad a buddsoddiad yn hydrogen. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i drafod gyda busnesau, ymchwilwyr a chyrff i gynnal digwyddiad allweddol i
gyfleu uchelgais Cymru mewn perthynas â’r economi hydrogen i gynulleidfa
fyd-eang ac fel sbardun i ddatblygu strategaeth economi hydrogen gynhwysfawr. Potensial
Hydrogen yn y Datgarboneiddio o Drafnidiaeth yng Nghymru Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ym mhwynt 1, ar ôl 'Simon Thomas AC', mewnosoder: ', ac yn nodi ymhellach: a) potensial hydrogen fel ffurf amgen o danwydd; b) pwysigrwydd tanwydd hydrogen i arallgyfeirio ein
portffolio ynni; c) y gwahaniaeth pwysig rhwng tanwydd hydrogen gwyrdd a brown; d) bod tanwydd hydrogen gwyrdd dim ond yn ddichonadwy fel
sgil-gynnyrch o gynhyrchu gormodedd o drydan, ac felly dylid cydnabod ei
gyfyngiadau; ac e) bod angen i Lywodraeth Cymru wneud gwelliannau i
seilwaith y grid yng Nghymru er mwyn sicrhau y gellir defnyddio trydan a
hydrogen fel dewisiadau gwyrdd amgen yn lle tanwyddau ffosil.' Gwelliant
2 -
Julie James (Gorllewin Abertawe) Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi’r pwyntiau a ganlyn yn eu
lle: Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd ati drwy’r
Cynllun Gweithredu newydd ar yr Economi i ddatgarboneiddio modelau busnes
traddodiadol, gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith yng Nghymru a symud ymlaen at
ddyfodol carbon isel mewn ffordd a all helpu’n heconomi i arallgyfeirio ac i
dyfu. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio
rhwydwaith trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys yr ymrwymiad diweddar i sicrhau
gostyngiad o 25 y cant mewn allyriadau ar draws rhwydwaith rheilffordd Cymru
a’r Gororau erbyn 2023. Yn nodi bod yn rhaid i waith i ddatgarboneiddio system
drafnidiaeth Cymru fod yn eang ei sail, a bod angen gwneud gwaith ymchwil a
datblygu creadigol ar atebion eraill o ran seilwaith ac ar draws amrywiaeth o
danwyddau arloesol a systemau tyniant, gan gynnwys hydrogen. Ffyniant
i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi Gwelliant
3 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau
bod unrhyw fathau o ynni amgen y maent yn archwilio iddynt yn bodloni'r profion
fforddiadwyedd, sy'n cynnwys peidio â gosod gormod o faich ar drethdalwyr. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.13 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6750 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r adroddiad, ‘Potensial hydrogen yn y datgarboneiddio o
drafnidiaeth yng Nghymru’, a gyhoeddwyd gan Simon Thomas AC. 2. Yn nodi bwriad datganedig Llywodraeth Cymru i adeiladu ar sgiliau ac
arbenigedd i arwain y Deyrnas Gyfunol mewn ymchwil a datblygiad a buddsoddiad
yn hydrogen. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i drafod gyda busnesau, ymchwilwyr a chyrff
i gynnal digwyddiad allweddol i gyfleu uchelgais Cymru mewn perthynas â’r
economi hydrogen i gynulleidfa fyd-eang ac fel sbardun i ddatblygu strategaeth
economi hydrogen gynhwysfawr. Potensial
Hydrogen yn y Datgarboneiddio o Drafnidiaeth yng Nghymru
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ym mhwynt 1, ar ôl
'Simon Thomas AC', mewnosoder: ', ac yn nodi ymhellach: a) potensial hydrogen
fel ffurf amgen o danwydd; b) pwysigrwydd tanwydd
hydrogen i arallgyfeirio ein portffolio ynni; c) y gwahaniaeth pwysig
rhwng tanwydd hydrogen gwyrdd a brown; d) bod tanwydd hydrogen
gwyrdd dim ond yn ddichonadwy fel sgil-gynnyrch o gynhyrchu gormodedd o drydan,
ac felly dylid cydnabod ei gyfyngiadau; ac e) bod angen i
Lywodraeth Cymru wneud gwelliannau i seilwaith y grid yng Nghymru er mwyn
sicrhau y gellir defnyddio trydan a hydrogen fel dewisiadau gwyrdd amgen yn lle
tanwyddau ffosil.' Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Julie James (Gorllewin Abertawe) Dileu pwyntiau 2 a 3 a
rhoi’r pwyntiau a ganlyn yn eu lle: Yn nodi ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i fynd ati drwy’r Cynllun Gweithredu newydd ar yr Economi i
ddatgarboneiddio modelau busnes traddodiadol, gwasanaethau cyhoeddus a
seilwaith yng Nghymru a symud ymlaen at ddyfodol carbon isel mewn ffordd a all
helpu’n heconomi i arallgyfeirio ac i dyfu. Yn nodi gwaith
Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio rhwydwaith trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys
yr ymrwymiad diweddar i sicrhau gostyngiad o 25 y cant mewn allyriadau ar draws
rhwydwaith rheilffordd Cymru a’r Gororau erbyn 2023. Yn nodi bod yn rhaid i
waith i ddatgarboneiddio system drafnidiaeth Cymru fod yn eang ei sail, a bod
angen gwneud gwaith ymchwil a datblygu creadigol ar atebion eraill o ran
seilwaith ac ar draws amrywiaeth o danwyddau arloesol a systemau tyniant, gan
gynnwys hydrogen. Ffyniant i Bawb: y
cynllun gweithredu ar yr economi Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru
a Llywodraeth y DU i sicrhau bod unrhyw fathau o ynni amgen y maent yn
archwilio iddynt yn bodloni'r profion fforddiadwyedd, sy'n cynnwys peidio â
gosod gormod o faich ar drethdalwyr. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6750 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r adroddiad, ‘Potensial hydrogen yn y datgarboneiddio o
drafnidiaeth yng Nghymru’, a gyhoeddwyd gan Simon Thomas AC. 2. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd ati drwy’r Cynllun Gweithredu
newydd ar yr Economi i ddatgarboneiddio modelau busnes traddodiadol,
gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith yng Nghymru a symud ymlaen at ddyfodol
carbon isel mewn ffordd a all helpu’n heconomi i arallgyfeirio ac i dyfu. 3. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio rhwydwaith
trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys yr ymrwymiad diweddar i sicrhau gostyngiad o 25
y cant mewn allyriadau ar draws rhwydwaith rheilffordd Cymru a’r Gororau erbyn
2023. 4. Yn nodi bod yn rhaid i
waith i ddatgarboneiddio system drafnidiaeth Cymru fod yn eang ei sail, a bod
angen gwneud gwaith ymchwil a datblygu creadigol ar atebion eraill o ran
seilwaith ac ar draws amrywiaeth o danwyddau arloesol a systemau tyniant, gan
gynnwys hydrogen. Potensial Hydrogen yn y Datgarboneiddio o
Drafnidiaeth yng Nghymru
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Canserau'r pen a'r gwddf NDM6751
Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r cynnydd yn nifer
yr achosion o ganserau'r pen a'r gwddf ymhlith dynion. 2. Yn nodi'r dystiolaeth o
effeithiolrwydd y brechiad HPV o ran diogelu rhag y mathau hyn o ganser. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ymestyn ei rhaglen brechu HPV i'r holl fechgyn yn eu glasoed. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 -
Julie James (Gorllewin Abertawe) Dileu
pwynt 3 a rhoi yn ei le: 3.
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn aros am gyngor gan y Cyd-bwyllgor ar
Imiwneiddio a Brechu ynghylch a ddylid ymestyn y rhaglen frechu HPV i gynnwys
bechgyn yn eu harddegau. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.41 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6751 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r cynnydd yn nifer yr achosion o ganserau'r pen a'r gwddf
ymhlith dynion. 2. Yn nodi'r dystiolaeth o effeithiolrwydd y brechiad HPV o ran diogelu
rhag y mathau hyn o ganser. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn ei rhaglen brechu HPV i'r holl
fechgyn yn eu glasoed.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin
Abertawe) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: 3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn aros am gyngor gan y Cyd-bwyllgor ar
Imiwneiddio a Brechu ynghylch a ddylid ymestyn y rhaglen frechu HPV i gynnwys
bechgyn yn eu harddegau. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6751 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r cynnydd yn nifer yr achosion o ganserau'r pen a'r gwddf
ymhlith dynion. 2. Yn nodi'r dystiolaeth o effeithiolrwydd y brechiad HPV o ran diogelu
rhag y mathau hyn o ganser. 3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn aros am gyngor gan y Cyd-bwyllgor ar
Imiwneiddio a Brechu ynghylch a ddylid ymestyn y rhaglen frechu HPV i gynnwys
bechgyn yn eu harddegau.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.07 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.12 NDM6749 Neil Hamilton (Mid and West
Wales) Bagloriaeth Cymru: addysg ynteu orfodaeth? |