NNDM6753 - Ysgrifennydd Gwladol Cymru

NNDM6753 - Ysgrifennydd Gwladol Cymru

NNDM6753 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn datgan nad oes ganddo bellach hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gyflawni proseictau seilwaith mawr, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth San Steffan i beidio â chefnogi morlyn llanw Bae Abertawe.

2. Yn datgan nad oes ganddo hyder yn swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac yn credu y dylai’r swydd gael ei dileu a’i disodli gan gyngor Gweinidogion y DU, wedi’i gyfansoddi’n briodol gyda phwerau cyfartal i wneud penderfyniadau ar y cyd.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth ar ôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru a rhoi yn ei le:

1. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru, gan gynnwys Morlyn Ynni’r Llanw Bae Abertawe a thrydaneiddio’r brif linell rhwng Caerdydd ac Abertawe.

2. Yn gresynu at fethiant Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ddadlau achos Cymru ac i gefnogi’r angen am ragor o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU mewn prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru.

3. Yn credu:

a) bod rhaid sicrhau rhagor o gydweithredu sy’n fwy cynaliadwy rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig;

b) bod angen diwygio peirianwaith rhynglywodraethol y DU gan sefydlu cyngor Gweinidogion newydd ar gyfer y DU, gydag ysgrifenyddiaeth annibynnol, er mwyn atgyfnerthu’r cydweithio a’r broses o wneud penderfyniadau.

 

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyflawniadau sylweddol Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sy'n cynnwys:

a) y cytundeb â Llywodraeth Cymru ar fframwaith cyllidol hanesyddol;

b) diddymu tollau'r pontydd Hafren;

c) buddsoddiad sylweddol mewn bargeinion dinesig a bargeinion twf rhanbarthol ledled Cymru; a

d) y cyhoeddiad diweddar ynghylch negodiadau pellach i ddatblygu ac adeiladu gorsaf niwclear newydd yn Wylfa Newydd.

2. Yn nodi anallu Llywodraeth Cymru i ddarparu cynnydd ar brosiectau seilwaith mawr ledled Cymru, yn dilyn ei phenderfyniad i wrthod Cylchffordd Cymru a'i methiant parhaus i gyflawni gwelliannau i'r M4, yr A40 a'r A55.

3. Yn credu bod swydd a swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn hanfodol o ran cynrychioli buddiannau Cymru ar lefel Llywodraeth y DU.

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/06/2021

Angen Penderfyniad: 27 Meh 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Y Gw. Anrh. Elin Jones AS