Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 85(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/07/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld
Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar
Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1-9 a 13. Tynnwyd cwestiwn 10 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiynau 11 a 12.
Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog
ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
Pwynt o Drefn Cododd
Arweinydd y Tŷ Bwynt o Drefn, yn gofyn am benderfyniad ar p’un a oedd
cwestiwn atodol Adam Price i Gwestiwn 4 yn amhriodol o dan Reol Sefydlog 13.9.
Dywedodd y Llywydd ei bod wedi gwrando ar y cwestiwn yn ofalus iawn ac nad oedd
yr Aelod wedi gwneud unrhyw gyhuddiad nad oedd o fewn trefn. Roedd yn amlwg yn
gwestiwn a gyflwynwyd i’r Prif Weinidog, ac fe atebodd y Prif Weinidog y
cwestiwn yn glir, ac nid oedd gan y Llywydd unrhyw beth yn rhagor i’w ddweud ar
y mater. |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Gweld
y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.18 |
|||||||||||||||||||||||||
(0 muned) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Bil Ymadael â’r UE - TYNNWYD YN ÔL |
|||||||||||||||||||||||||
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu cynnal dadl ar yr eitem nesaf o fusnes Dechreuodd yr eitem am
14.37 NNDM6373 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a'r rhan
honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad
wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y
Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM6374 gael ei
ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) NNDM6374 Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.Yn
nodi Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU. 2.
Yn credu: a)
ei fod yn gwbl annerbyniol ar ei ffurf bresennol; a b)
bod rhaid cymryd pob cam angenrheidiol i ddiogelu buddiannau Cymru a sefyllfa
gyfansoddiadol a phwerau’r Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys cyhoeddi bil
parhad. ‘Bil
yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)’ Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant
1. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn
credu nad yw Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn unrhyw fygythiad i'r setliad datganoli
presennol. [Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn
cydnabod bod seneddau a chynulliadau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn rhan
o setliad democrataidd modern y Deyrnas Unedig, ac y dylid eu cynnwys yn llawn
yng ngwneuthuriad y Deyrnas Unedig sy'n ffynnu yn y dyfodol ar ôl-Brexit. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.37 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. NNDM6374 Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.Yn nodi Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU. 2. Yn credu: a) ei fod yn gwbl annerbyniol ar ei ffurf bresennol; a b) bod rhaid cymryd pob cam angenrheidiol i ddiogelu buddiannau Cymru a
sefyllfa gyfansoddiadol a phwerau’r Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys
cyhoeddi bil parhad. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn credu nad yw Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn unrhyw fygythiad i'r
setliad datganoli presennol. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod bod seneddau a chynulliadau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
yn rhan o setliad democrataidd modern y Deyrnas Unedig, ac y dylid eu cynnwys
yn llawn yng ngwneuthuriad y Deyrnas Unedig sy'n ffynnu yn y dyfodol ar
ôl-Brexit. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NNDM6374 Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.Yn nodi Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU. 2. Yn credu: a) ei fod yn gwbl annerbyniol ar ei ffurf bresennol; a b) bod rhaid cymryd pob cam angenrheidiol i ddiogelu buddiannau Cymru a
sefyllfa gyfansoddiadol a phwerau’r Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys
cyhoeddi bil parhad.
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Caffael Gwasanaethau Rheilffyrdd a'r Metro Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 15.35 |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Diwygio Llywodraeth Leol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 16.23 |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Banc Datblygu Cymru Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.23 |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) NDM6367
Carl Sargeant (Alun a
Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i
egwyddorion cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Gosodwyd Bil
Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) a'r Memorandwm
Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 13 Mawrth 2017. Gosodwyd
adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar Fil
Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 7
Gorffennaf 2017. Dogfennau ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.57 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. NDM6367 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i
egwyddorion cyffredinol Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Dadl: Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) NDM6368 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.01 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. NDM6368 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o
Fil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru), yn cytuno i unrhyw
gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n
codi o ganlyniad i'r Bil. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18 NDM6353 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig
bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb
Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at
Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth 27 Mehefin 2017. Troednodyn: Yn
unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol
Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol: (i)
y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth
Cymru; (ii)
yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y
flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; (iii)
cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y
Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; (iv)
cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan
yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y
cynnig; a (v)
cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r
Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran
125(1)(c). Mae'r
wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: -
nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol. Dogfen
ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.02 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. NDM6353 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y
Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol
Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-18 a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth 27 Mehefin 2017. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Dadl: Cyfnod 4 Bil yr Undebau Llafur (Cymru) NDM6372 Mark
Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil yr Undebau Llafur (Cymru) 'Bil
yr Undebau Llafur (Cymru)' Dogfennau
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.19 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. NDM6372 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil
yr Undebau Llafur (Cymru). Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 19.30 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |