R - Yn
dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif
gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. David Rowlands (Dwyrain De Cymru): Pryd fydd yr adroddiad ar yr ymchwiliad i werthu tir i South Wales Land Developments Cyf yn cael ei gyhoeddi? OAQ(5)0735(FM)
2. Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adroddiad monitro diweddar Estyn ar Goleg Cymunedol y Dderwen? OAQ(5)0733(FM)
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn sir Benfro? OAQ(5)0729(FM)
4. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ardaloedd menter? OAQ(5)0732(FM)
5. Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddull gweithredu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â dysgu cynhwysol sy'n seiliedig ar waith? OAQ(5)0736(FM)R
6. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd lleisiau cleifion wrth ddarparu a datblygu gwasanaethau iechyd? OAQ(5)0743(FM)W
7. Nathan Gill (Gogledd Cymru): Beth yw asesiad y Prif Weinidog o'r sefyllfa ddigartrefedd yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0741(FM)
8. Lee Waters (Llanelli): Pa gamau y bydd y Prif Weinidog yn eu cymryd i wrthgydbwyso rhaglen canoli swyddi Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r Adran Gwaith a Phensiynau? OAQ(5)0742(FM)
9. Nick Ramsay (Mynwy): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau iechyd ym Mynwy? OAQ(5)0730(FM)
10. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd ym Mhort Talbot ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod? OAQ(5)0739(FM) TYNNYWD YN OL
11. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ganolfannau canser arbenigol yng Nghymru? OAQ(5)0737(FM)
12. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cynnal ynghylch y posibilrwydd o reolaeth basbort rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon? OAQ(5)0731(FM)
13. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelu cofebau rhyfel Nghymru? OAQ(5)0734(FM)W
14. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yn Nwyrain Casnewydd? OAQ(4)2286(FM) OAQ(5)0744(FM)
15. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd coetiroedd cymunedol yng ardaloedd trefol Cymru? OAQ(5)0740(FM)