Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 41(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 10/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld
Cofnod
y Trafodion |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd
yr eitem am 14.15 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn):
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch y sylwadau a wnaeth y Coleg
Brenhinol Meddygaeth Frys fod gofal brys yng Nghymru mewn argyfwng? |
||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.33 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Ymgynghoriad ynghylch Cynllun Gweithredu Strategol Drafft ar gyfer Dementia yng Nghymru Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.50 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: Ffliw Adar Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.35 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Y Gronfa Triniaethau Newydd Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.13 |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl: Cyllideb Derfynol 2017-18 NDM6192 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25: Yn cymeradwyo'r
Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-2018 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar 20
Rhagfyr 2016. Troednodyn: Yn unol â darpariaethau perthnasol Deddf
Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28, mae'r Gyllideb Flynyddol yn
cynnwys y wybodaeth ganlynol: 1. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o
dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; 2. yr adnoddau y cytunodd y Trysorlys arnynt
ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â
hi; 3. cysoni rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i
gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau i'w hawdurdodi i'w defnyddio
yn y cynnig; 4. cysoni rhwng yr amcangyfrif o'r symiau i'w
talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau i'w
hawdurdodi ar gyfer talu allan o'r Gronfa yn y cynnig; a 5. cysoni rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o
dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu
allan o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c). Darparwyd y wybodaeth atodol ganlynol i'r
Aelodau: • Nodyn Esboniadol ar y
newidiadau rhwng cynigion y Gyllideb Ddrafft a'r Gyllideb Flynyddol. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.46 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig: NDM6192 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol
â Rheol Sefydlog 20.25: Yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y
flwyddyn ariannol 2017-2018 a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet og dros Gyllid a
Llywodraeth Leol ar 20 Rhagfyr 2016.
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl: Egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) NDM6193 Mark
Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion
cyffredinol Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig
(Cymru). Gosodwyd
Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) a'r
Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 12 Medi 2016. Gosodwyd
adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Fil
Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) gerbron
y Cynulliad ar 20 Rhagfyr 2016. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.46 NDM6193 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol
â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Treth
Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru). Gosodwyd y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio
Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad
ar 12 Medi 2016. Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y Bil Treth
Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) gerbron y
Cynulliad ar 20 Rhagfyr 2016. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(5 munud) |
Dadl ar y Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) NDM6194 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n
deillio o’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig
(Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn
Rheol Sefydlog 26.69 sy’n codi o ganlyniad i’r Bil. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
18.39 NDM6194 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at
ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Treth Trafodiadau Tir a
Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn
gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy’n codi o
ganlyniad i’r Bil. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.40 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau 10.01.17 Dogfennau ategol: |