Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 5 Ionawr 2017
i'w hateb ar 10 Ionawr 2017

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. David Rees (Aberafan):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei gynigion ar gyfer cefnogi twf economaidd yn ystod 2017 yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0350(FM)

 

2. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc yn Nhorfaen? OAQ(5)0355(FM)

 

3. Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd datblygu economaidd rhanbarthol er mwyn cyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? OAQ(5)0352(FM)W

 

4. Huw Irranca–Davies (Ogwr): Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ag Ysgrifenyddion y Cabinet ynghylch adroddiad Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Pedwerydd Cynulliad, 'Dyfodol Ynni Craffach i Gymru'? OAQ(5)0347(FM)

 

5. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth gofal sylfaenol? OAQ(5)0345(FM)

 

6. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i annog defnyddwyr Cymru i brynu nwyddau a gwasanaethau o Gymru? OAQ(5)0357(FM)

 

7. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr achosion o ffliw adar yng Nghymru? OAQ(5)0351(FM)

 

8. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd yn 2017? OAQ(5)0348(FM)

 

9. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog egluro pa gefnogaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gyn-filwyr a'u teuluoedd yn 2017? OAQ(5)0360(FM)

 

10. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):Pa gytundeb sydd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU parthed fframwaith amaeth-amgylcheddol ar ôl ymadael a’r Undeb Ewropeaidd?  OAQ(5)0359(FM)W

 

11. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru? OAQ(5)0353(FM)

 

12. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fenter New Sandfields Afan? OAQ(5)0349(FM)

 

13. Gareth Bennett (Canol De Cymru):Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynghylch polisïau a rheolau mewnfudo ar gyfer Cymru? OAQ(5)0364(FM)

 

14. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfraniad ariannol Llywodraeth Cymru i'r seilwaith ffyrdd yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0354(FM)

 

15. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau i'r seilwaith trafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru yn ystod 2017? OAQ(5)0363(FM)