Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 282(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/07/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dechreuodd yr eitem am 11.00. Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor
Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys - nodwyd pob
un ohonynt ar yr agenda. Dywedodd y Llywydd fod y cyhoedd, yn unol â Rheol
Sefydlog 34.15, wedi cael eu gwahardd rhag mynychu'r Cyfarfod Llawn hwn, fel
sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond byddai'r cyfarfod yn cael
ei ddarlledu'n fyw a byddai cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y
ffordd arferol. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd
y byddai Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y
Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod hwn. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar
Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 11.01 Gofynnwyd
y 6 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 12.05 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd - (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 12.15 Gofynnwyd y 7 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 12.44 Gofynnwyd yr 8
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.15 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1 i 5 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon
a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.02. Gofynnwyd
y 5 cwestiwn cyntaf. Ni ofynnwyd cwestiwn 6 oherwydd problemau technegol. Cafwyd
egwyl am resymau technegol am 15.22. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): A wnaiff y
Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU yn dilyn y cyhoeddiad am golli swyddi yn Airbus? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.23 Gofyn
i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad
am y trafodaethau a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn dilyn
y cyhoeddiad am golli swyddi yn Airbus? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Yr Argyfwng Hinsawdd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.39 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Dadl: Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020 NDM7340 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd yn
cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog
30A.10, i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Rheoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i
Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020, yn unol
â'r drafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mai 2020. Gosodwyd
y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mai 2020, yn
unol â Rheol Sefydlog 30A.2. Dogfen Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.10 NDM7340 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig
bod y Senedd yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, i'r
Ysgrifennydd Gwladol wneud Rheoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr
(Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020, yn unol â'r drafft
a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mai 2020. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar effeithiau COVID-19 ar Economi, Seilwaith a Sgiliau Cymru NDM7341 Russell
George (Sir Drefaldwyn) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiadau Pwyllgor
yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Effaith COVID-19: Crynodeb o'r canfyddiadau
cychwynnol a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2020 ac Effaith COVID-19: Sgiliau –
canfyddiadau cynnar a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2020. Dogfennau Ategol – Pwyllgor
yr Economi, Seilwaith a Sqilia Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.15 NDM7341 Russell George (Sir Drefaldwyn) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiadau Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Effaith COVID-19:
Crynodeb o'r canfyddiadau cychwynnol a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2020 ac Effaith COVID-19: Sgiliau –
canfyddiadau cynnar a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2020. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Cwricwlwm Newydd Arfaethedig NDM7342 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn datgan cefnogaeth
gyffredinol i bwrpas y cwricwlwm newydd arfaethedig, sef galluogi dysgwyr i
ddatblygu fel: a) dysgwyr
uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau; b) cyfranwyr mentrus,
creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith; c) dinasyddion
egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd; ac d) unigolion iach,
hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas. 2. Yn cytuno bod
cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle hanesyddol i unioni sawl
anghyfiawnder strwythurol yng Nghymru. 3. Yn croesawu
cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru bod cyfrifoldeb ar lywodraeth gwlad i gymryd
camau penodol i sicrhau bod y cwricwlwm yn gwarantu gwaelodlin o ddarpariaeth i
bobl ifanc ar draws Cymru fel mater o hawliau dynol sylfaenol ac yn croesawu y
bydd rhai elfennau o’r cwricwlwm newydd yn orfodol o ganlyniad. 4. Yn cytuno y dylai’r
elfennau gorfodol o’r cwricwlwm gynnwys: a) hanes pobl ddu
a phobl o liw; a b) hanes Cymru. 5. Yn cytuno y dylai’r
cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg,
ond nad oes angen i’r Saesneg gael ei chynnwys yn y rhestr o elfennau gorfodol
er mwyn cyflawni’r nod hwn. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 2 a rhoi
yn ei le: Yn cytuno y gall y
cwricwlwm newydd, os yw'n llwyddo yn ei amcanion, helpu i ddatblygu dinasyddion
hyderus, sy'n gyd-gyfrifol, a fydd yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael ag
anghyfiawnder o bob ffynhonnell. Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu pwyntiau 4 a 5 a
rhoi yn eu lle: Yn cydnabod bod canllawiau’r Cwricwlwm Newydd i Gymru o
ran y Dyniaethau yn “hyrwyddo
dealltwriaeth o’r amrywiaeth ethnig a diwylliannol yng Nghymru” ac yn “galluogi
dysgwyr i ymroi i weithredu cymdeithasol fel dinasyddion cyfranogol, gofalgar
o’u cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang.” Yn croesawu ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i: a) gweithio gydag
Estyn er mwyn sicrhau bod eu hadolygiad o hanes Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i
hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru
a thu hwnt; a b) sefydlu gweithgor i
oruchwylio’r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu, ac adnabod bylchau yn yr
adnoddau neu’r hyfforddiant presennol yn ymwneud â chymunedau, cyfraniadau a
phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Yn cytuno y dylai’r
cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i ddysgu Cymraeg a Saesneg. Cwricwlwm i Gymru -
Y Dyniaethau – Canllawiau Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 4, dileu
is-bwyntiau 4(a) a 4(b) a rhoi yn eu lle: hanes Cymru; hanesion
y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon; a hanesion rhannau eraill o'r byd, a
bod: (i) pob un o'r uchod i
gynnwys hanes pobl dduon a phobl o liw; a (ii) pob un o'r uchod
yn cael eu rhoi mewn cyd-destun; addysgu sgiliau achub bywyd,
fel y nodwyd yn flaenoriaeth gan y Senedd Ieuenctid. Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 5 a rhoi
yn ei le: Yn cytuno y dylai'r
cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg,
gan sicrhau bod cymorth ar gyfer dysgu Cymraeg yn ystyried yr effaith
fanteisiol a geir eisoes yn sgil y ffaith bod dysgwyr o dan ddylanwad
amgylcheddol amlycach i’r Saesneg. Gwelliant 5 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod y cwricwlwm yn darparu ar gyfer dysgu Cymraeg a bod hyn yn
cael ei ategu gan fuddsoddiad i sicrhau bod cyrsiau trochi dwys yn y Gymraeg ar
gael yn rhwydd i athrawon a disgyblion fel ei gilydd. Gwelliant 6 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar y cwricwlwm
newydd i sicrhau bod pob disgybl yn dysgu iaith dramor fodern o flwyddyn 1 yn
yr ysgol. Gwelliant 7 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn credu mai'r ffordd
orau o roi'r cwricwlwm newydd ar waith yn llwyddiannus yw drwy leihau maint
dosbarthiadau i lai na 20 o ddisgyblion. Gwelliant 8 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ymrwymo i ailystyried y dyddiad cychwyn ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm
newydd i ddarparu ar gyfer oedi wrth ei baratoi oherwydd COVID-19. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.17 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7342 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn datgan cefnogaeth gyffredinol i bwrpas y cwricwlwm newydd
arfaethedig, sef galluogi dysgwyr i ddatblygu fel: a) dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau; b) cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd
a gwaith; c) dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd; ac d) unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau
gwerthfawr o gymdeithas. 2. Yn cytuno bod cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle hanesyddol i
unioni sawl anghyfiawnder strwythurol yng Nghymru. 3. Yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru bod cyfrifoldeb ar
lywodraeth gwlad i gymryd camau penodol i sicrhau bod y cwricwlwm yn gwarantu
gwaelodlin o ddarpariaeth i bobl ifanc ar draws Cymru fel mater o hawliau dynol
sylfaenol ac yn croesawu y bydd rhai elfennau o’r cwricwlwm newydd yn orfodol o
ganlyniad. 4. Yn cytuno y dylai’r elfennau gorfodol o’r cwricwlwm gynnwys: a) hanes pobl ddu a phobl o liw; a b) hanes Cymru. 5. Yn cytuno y dylai’r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i fod yn rhugl
yn y Gymraeg a’r Saesneg, ond nad oes angen i’r Saesneg gael ei chynnwys yn y
rhestr o elfennau gorfodol er mwyn cyflawni’r nod hwn.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Dileu pwynt 2 a rhoi yn
ei le: Yn cytuno y gall y
cwricwlwm newydd, os yw'n llwyddo yn ei amcanion, helpu i ddatblygu dinasyddion
hyderus, sy'n gyd-gyfrifol, a fydd yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael ag
anghyfiawnder o bob ffynhonnell. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu pwyntiau 4 a 5 a
rhoi yn eu lle: Yn cydnabod bod
canllawiau’r Cwricwlwm Newydd i Gymru o ran y Dyniaethau yn “hyrwyddo
dealltwriaeth o’r amrywiaeth ethnig a diwylliannol yng Nghymru” ac yn “galluogi
dysgwyr i ymroi i weithredu cymdeithasol fel dinasyddion cyfranogol, gofalgar
o’u cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang.” Yn croesawu ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i: a) gweithio gydag Estyn
er mwyn sicrhau bod eu hadolygiad o hanes Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i
hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru
a thu hwnt; a b) sefydlu gweithgor i
oruchwylio’r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu, ac adnabod bylchau yn yr adnoddau
neu’r hyfforddiant presennol yn ymwneud â chymunedau, cyfraniadau a phrofiadau
pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Yn cytuno y dylai’r
cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i ddysgu Cymraeg a Saesneg. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gan fod gwelliant 2
wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol Gwelliant 5 - Neil McEvoy (Canol De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod y cwricwlwm yn darparu ar gyfer dysgu Cymraeg a bod hyn yn
cael ei ategu gan fuddsoddiad i sicrhau bod cyrsiau trochi dwys yn y Gymraeg ar
gael yn rhwydd i athrawon a disgyblion fel ei gilydd. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - Neil McEvoy (Canol De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar y cwricwlwm
newydd i sicrhau bod pob disgybl yn dysgu iaith dramor fodern o flwyddyn 1 yn
yr ysgol. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant 6. Gwelliant 7 - Neil McEvoy (Canol De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn credu mai'r ffordd
orau o roi'r cwricwlwm newydd ar waith yn llwyddiannus yw drwy leihau maint
dosbarthiadau i lai na 20 o ddisgyblion. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 7:
Gwrthodwyd gwelliant 7. Gwelliant 8 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ymrwymo i ailystyried y dyddiad cychwyn ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm
newydd i ddarparu ar gyfer oedi wrth ei baratoi oherwydd COVID-19. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 8:
Gwrthodwyd gwelliant 8. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7342 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn datgan cefnogaeth gyffredinol i bwrpas y cwricwlwm newydd
arfaethedig, sef galluogi dysgwyr i ddatblygu fel: a) dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau; b) cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd
a gwaith; c) dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd; ac d) unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau
gwerthfawr o gymdeithas. 2. Yn cytuno bod cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle hanesyddol i
unioni sawl anghyfiawnder strwythurol yng Nghymru. 3. Yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru bod cyfrifoldeb ar
lywodraeth gwlad i gymryd camau penodol i sicrhau bod y cwricwlwm yn gwarantu
gwaelodlin o ddarpariaeth i bobl ifanc ar draws Cymru fel mater o hawliau dynol
sylfaenol ac yn croesawu y bydd rhai elfennau o’r cwricwlwm newydd yn orfodol o
ganlyniad. 4. Yn cydnabod bod canllawiau’r Cwricwlwm Newydd i Gymru o ran y
Dyniaethau yn “hyrwyddo dealltwriaeth o’r amrywiaeth ethnig a diwylliannol yng
Nghymru” ac yn “galluogi dysgwyr i ymroi i weithredu cymdeithasol fel
dinasyddion cyfranogol, gofalgar o’u cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang.” 5. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i: a) gweithio gydag Estyn er mwyn sicrhau bod eu hadolygiad o hanes Cymru
yn rhoi ystyriaeth lawn i hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon, Asiaidd a
lleiafrifoedd ethnig Cymru a thu hwnt; a b) sefydlu gweithgor i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu, ac
adnabod bylchau yn yr adnoddau neu’r hyfforddiant presennol yn ymwneud â
chymunedau, cyfraniadau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd
ethnig. 6. Yn cytuno y dylai’r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i ddysgu
Cymraeg a Saesneg.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.27 Fel y nodir ar yr Agenda, cynhaliwyd pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol
Sefydlog 34.11. Enwebodd pob grŵp
gwleidyddol un Aelod o'r grŵp neu'r grwpiad i gario'r un nifer o
bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd
â rôl weithredol, bydd yr enwebai yn cario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o
aelodau'r grŵp hwnnw ynghyd ag unrhyw aelodau eraill o'r llywodraeth.
Roedd Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio
drostynt eu hunain. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |