NDM7342 Dadl Plaid Cymru - Cwricwlwm Newydd Arfaethedig

NDM7342 Dadl Plaid Cymru - Cwricwlwm Newydd Arfaethedig

NDM7342 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn datgan cefnogaeth gyffredinol i bwrpas y cwricwlwm newydd arfaethedig, sef galluogi dysgwyr i ddatblygu fel:

a) dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau;

b) cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;

c) dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd; ac

d) unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

2. Yn cytuno bod cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle hanesyddol i unioni sawl anghyfiawnder strwythurol yng Nghymru.

3. Yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru bod cyfrifoldeb ar lywodraeth gwlad i gymryd camau penodol i sicrhau bod y cwricwlwm yn gwarantu gwaelodlin o ddarpariaeth i bobl ifanc ar draws Cymru fel mater o hawliau dynol sylfaenol ac yn croesawu y bydd rhai elfennau o’r cwricwlwm newydd yn orfodol o ganlyniad.

4. Yn cytuno y dylai’r elfennau gorfodol o’r cwricwlwm gynnwys:

a) hanes pobl ddu a phobl o liw; a 

b) hanes Cymru.

5. Yn cytuno y dylai’r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, ond nad oes angen i’r Saesneg gael ei chynnwys yn y rhestr o elfennau gorfodol er mwyn cyflawni’r nod hwn.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cytuno y gall y cwricwlwm newydd, os yw'n llwyddo yn ei amcanion, helpu i ddatblygu dinasyddion hyderus, sy'n gyd-gyfrifol, a fydd yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael ag anghyfiawnder o bob ffynhonnell.

Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu pwyntiau 4 a 5 a rhoi yn eu lle:

Yn cydnabod bod canllawiau’r Cwricwlwm Newydd i Gymru o ran y Dyniaethau yn “hyrwyddo dealltwriaeth o’r amrywiaeth ethnig a diwylliannol yng Nghymru” ac yn “galluogi dysgwyr i ymroi i weithredu cymdeithasol fel dinasyddion cyfranogol, gofalgar o’u cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang.”

Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:

a) gweithio gydag Estyn er mwyn sicrhau bod eu hadolygiad o hanes Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru a thu hwnt; a

b) sefydlu gweithgor i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu, ac adnabod bylchau yn yr adnoddau neu’r hyfforddiant presennol yn ymwneud â chymunedau, cyfraniadau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Yn cytuno y dylai’r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i ddysgu Cymraeg a Saesneg.

Cwricwlwm i Gymru - Y Dyniaethau – Canllawiau

[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ym mhwynt 4, dileu is-bwyntiau 4(a) a 4(b) a rhoi yn eu lle:

hanes Cymru; hanesion y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon; a hanesion rhannau eraill o'r byd, a bod:

(i) pob un o'r uchod i gynnwys hanes pobl dduon a phobl o liw; a

(ii) pob un o'r uchod yn cael eu rhoi mewn cyd-destun;

addysgu sgiliau achub bywyd, fel y nodwyd yn flaenoriaeth gan y Senedd Ieuenctid.

Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn cytuno y dylai'r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan sicrhau bod cymorth ar gyfer dysgu Cymraeg yn ystyried yr effaith fanteisiol a geir eisoes yn sgil y ffaith bod dysgwyr o dan ddylanwad amgylcheddol amlycach i’r Saesneg.

Gwelliant 5 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cwricwlwm yn darparu ar gyfer dysgu Cymraeg a bod hyn yn cael ei ategu gan fuddsoddiad i sicrhau bod cyrsiau trochi dwys yn y Gymraeg ar gael yn rhwydd i athrawon a disgyblion fel ei gilydd.  

Gwelliant 6 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar y cwricwlwm newydd i sicrhau bod pob disgybl yn dysgu iaith dramor fodern o flwyddyn 1 yn yr ysgol.

Gwelliant 7 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu mai'r ffordd orau o roi'r cwricwlwm newydd ar waith yn llwyddiannus yw drwy leihau maint dosbarthiadau i lai na 20 o ddisgyblion.

Gwelliant 8 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ailystyried y dyddiad cychwyn ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm newydd i ddarparu ar gyfer oedi wrth ei baratoi oherwydd COVID-19.

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/06/2021

Angen Penderfyniad: 1 Gorff 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Siân Gwenllian AS