Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 194(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 06/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1-6, 8 a 9. Cafodd cwestiynau 3 a 4
eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Ni ofynnwyd cwestiwn 7. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.19 Gofynnwyd cwestiynau 1-3
a 5-6. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i
ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|
(20 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.07 Gofynnwyd y 4 cwestiwn. |
|
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Andrew
RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u
cael gydag Undeb Rygbi Cymru yng ngoleuni adroddiadau unghylch ailwampio mawr
ar y gêm broffesiynol yng Nghymru? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.20 Gofyn i’r Dirprwy
Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Andrew RT Davies (Canol
De Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag
Undeb Rygbi Cymru yng ngoleuni adroddiadau ynghylch ailwampio mawr ar y gêm
broffesiynol yng Nghymru? |
|
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.33 Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau 90 eiliad. |
|
(5 munud) |
Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Ombwdswmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) NDM6981
Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu'r adrannau
a'r atodlenni i'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) yng Nghyfnod 3
yn y drefn a ganlyn: a) Adran 2; b) Atodlen 1; c) Adrannau 3-14; d) Atodlen 2; e) Adrannau 15-30; f) Atodlen 3; g) Adrannau 31-41; h) Atodlen 4; i) Adrannau 42-74; j) Atodlen 5; k) Adrannau 75-80; l) Adran 1; m) Teitl hir. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.34 NDM6981 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu'r
adrannau a'r atodlenni i'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) yng
Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn: a) Adran 2; b) Atodlen 1; c) Adrannau 3-14; d) Atodlen 2; e) Adrannau 15-30; f) Atodlen 3; g) Adrannau 31-41; h) Atodlen 4; i) Adrannau 42-74; j) Atodlen 5; k) Adrannau 75-80; l) Adran 1; m) Teitl hir. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru NDM6983
Mick
Antoniw (Pontypridd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, sef Cytundeb cysylltiadau
rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2019. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.34 NDM6983 Mick
Antoniw (Pontypridd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, sef Cytundeb cysylltiadau
rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2019. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Adeiladu Tai Cymdeithasol yng Nghymru NDM6978
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn credu bod angen cynnydd
sylweddol yn y raddfa adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.10 NDM6978 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn credu bod angen
cynnydd sylweddol yn y raddfa adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(60 munud) |
Dadl ar ddeiseb P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad NDM6982
David
J. Rowlands (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r ddeiseb
‘P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion
diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad’ a gasglodd 6,345 o
lofnodion. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.55 NDM6982 David
J. Rowlands (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r ddeiseb
‘P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion
diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad’ a gasglodd 6,345 o
lofnodion. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Nid oedd cyfnod pleidleisio. |
||
(30 munud) |
Dadl Fer Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.31 NDM6980 John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Gwastatir Gwent: Tirwedd
Unigryw a Hanesyddol |