Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 177(v6) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/12/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(30 munud)

2.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Datganiad Ymddiswyddo

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.22

 

(45 munud)

3.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.06

Gofynnwyd cwestiynau 1 a 3 - 10. Ni ofynnwyd cwestiwn 2. Atebwyd cwestiynau 4 a 5 gan Weinidog yr Amgylchedd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a Gweinidog yr Amgylchedd ôl cwestiwn 2.

 

 

(45 munud)

4.

Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

 

Cofnodion:

(30 munud)

5.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.38

(0 munud)

6.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Ofal am y Difrifol Wael - I'w gyflwyno fel datganiad ysgrifenedig

Cofnodion:

Wedi ei gyflwyno fel datganiad ysgrifenedig

(0 munud)

7.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Gwasanaethau Deintyddol - I'w gyflwyno fel datganiad ysgrifenedig

Cofnodion:

Wedi ei gyflwyno fel datganiad ysgrifenedig

(45 munud)

8.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Tuag at Ddull Gweithredu Penodol o ran y System Gosbi yng Nghymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.52

(15 munud)

9.

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2018

NDM6894 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2018.  

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.33

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6894 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) (Rhif 2) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2018. 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

2

11

49

Derbyniwyd y cynnig.

(15 munud)

10.

Rheoliadau Safonau Trapio heb Greulondeb 2019

NDM6895 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Safonau Trapio heb Greulondeb 2019 yn cael eu llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Tachwedd 2018. 

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.42

NDM6895 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Safonau Trapio heb Greulondeb 2019 yn cael eu llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Tachwedd 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y gloch a gohiriwyd y cyfarfod gan ailgynnull am 17.49 ar gyfer y cyfnod pleidleisio.

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: