Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 88(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/09/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Bydd
y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.30 Gofynnwyd y 10
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Bydd
y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.19 Gofynnwyd y 10
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 muned) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith 1. David Rees
(Aberafan): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael
ynghylch effaith y fenter ar y cyd rhwng Tata Steel a ThyssenKrupp ar y sector
dur yng Nghymru? Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon 2. Bethan Jenkins
(Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r gwersi a
ddysgwyd yn sgil y sgandal Kris Wade ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro
Morgannwg? 3. Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A
wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am benderfyniad y Grŵp
Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan i beidio â gwneud Avastin, cyffur
canser a allai ymestyn bywydau, ar gael fel mater o drefn yn y GIG yng Nghymru? Gofyn
i Brif Weinidog Cymru 4. Adam Price
(Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Yn sgil digwyddiadau
yng Nghatalonia, pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda
Llywodraeth y DU fel rhan o drafodaethau Brexit yr UE a'r DU, ynghylch hawliau is-wladwriaethol llywodraethau i weithredu'n annibynnol heb fod
llywodraeth y wladwriaeth yn cyfyngu arnynt? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.05 Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r
Seilwaith 1. David Rees
(Aberafan): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael
ynghylch effaith y fenter ar y cyd rhwng Tata Steel a ThyssenKrupp ar y sector
dur yng Nghymru? Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a
Chwaraeon 2. Bethan Jenkins
(Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r gwersi a
ddysgwyd yn sgil y sgandal Kris Wade ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro
Morgannwg? 3. Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A
wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am benderfyniad y Grŵp
Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan i beidio â gwneud Avastin, cyffur
canser a allai ymestyn bywydau, ar gael fel mater o drefn yn y GIG yng Nghymru? Gofyn i Brif Weinidog Cymru (atebwyd gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol) 4. Adam Price
(Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Yn sgil digwyddiadau
yng Nghatalonia, pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda
Llywodraeth y DU fel rhan o drafodaethau Brexit yr UE a'r DU, ynghylch hawliau
is-wladwriaethol llywodraethau i weithredu'n annibynnol heb fod llywodraeth y
wladwriaeth yn cyfyngu arnynt? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 15.46 Gwnaeth Dawn Bowden
ddatganiad i nodi 30 mlynedd ers gêm Clwb Pêl-droed Merthyr Tudful yn erbyn
Atalanta. Gwnaeth Llyr
Gruffydd ddatganiad i goffáu Trychineb Gresffordd, 22 Medi 1934. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar recriwtio meddygol NDM6502 Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar yr ymchwiliad
i recriwtio meddygol, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mehefin 2017. Nodyn:
Gosodwyd
ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i'r adroddiad
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Medi 2017. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.49 NDM6502 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar yr ymchwiliad i recriwtio
meddygol. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6505 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, 'Gwasanaethau sy'n addas i’r dyfodol',
sy'n ceisio diddymu cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru. 2.
Yn cydnabod y rôl bwysig y mae cynghorau iechyd cymuned wedi'i chwarae o ran
sicrhau atebolrwydd gwasanaethau cyhoeddus annibynnol a darparu llais cryf i
gleifion yng Nghymru. 3.
Yn credu y bydd cynigion y Papur Gwyn yn gwanhau lleisiau cleifion a chymunedau
a lleihau lefel y gwaith craffu ar Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
ymestyn y cyfnod ymgynghori ar y Papur Gwyn, ar ôl methu ag ymgysylltu'n
briodol â chynghorau iechyd cymuned, cleifion a'r cyhoedd yng Nghymru; a b)
gweithio mewn ffordd fwy adeiladol gyda'r cynghorau iechyd cymuned ar gynigion
yn y dyfodol ar gyfer corff newydd i roi llais i'r bobl. Dogfen
Ymgynghori Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - 'Gwasanaethau sy'n addas i’r dyfodol' Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu
popeth ar ôl 'Gwasanaethau sy'n Addas i'r Dyfodol' ac ychwanegu 'sy'n amlinellu
cyfres o gynigion i gryfhau ansawdd a llywodraethiant mewn gwasanaethau iechyd
a gofal yng Nghymru'. Gwelliant 2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
nodi bod Pwyllgor Iechyd a Chwaraeon Llywodraeth yr Alban yn ystyried nad oedd
cyngor iechyd cymuned cenedlaethol sengl yn yr Alban yn ddigon annibynnol ar y
llywodraeth. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.44 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6505
Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, 'Gwasanaethau sy'n addas i’r
dyfodol', sy'n ceisio ddiddymu cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru. 2. Yn cydnabod y rôl bwysig y mae cynghorau iechyd cymuned wedi'i chwarae
o ran sicrhau atebolrwydd gwasanaethau cyhoeddus annibynnol a darparu llais
cryf i gleifion yng Nghymru. 3. Yn credu y bydd cynigion y Papur Gwyn yn gwanhau lleisiau cleifion a
chymunedau a lleihau lefel y gwaith craffu ar Lywodraeth Cymru a byrddau
iechyd. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ymestyn y cyfnod ymgynghori ar y Papur Gwyn, ar ôl methu ag
ymgysylltu'n briodol â chynghorau iechyd cymuned, cleifion a'r cyhoedd yng
Nghymru; a b) gweithio mewn ffordd fwy adeiladol gyda'r cynghorau iechyd cymuned ar
gynigion yn y dyfodol ar gyfer corff newydd i roi llais i'r bobl.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth ar ôl
'Gwasanaethau sy'n Addas i'r Dyfodol' ac ychwanegu 'sy'n amlinellu cyfres o
gynigion i gryfhau ansawdd a llywodraethiant mewn gwasanaethau iechyd a gofal
yng Nghymru'. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod Pwyllgor
Iechyd a Chwaraeon Llywodraeth yr Alban yn ystyried nad oedd cyngor iechyd
cymuned cenedlaethol sengl yn yr Alban yn ddigon annibynnol ar y llywodraeth. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6505
Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, 'Gwasanaethau sy'n addas i’r
dyfodol', 'sy'n amlinellu cyfres o gynigion i gryfhau ansawdd a llywodraethiant
mewn gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru. 2. Yn nodi bod Pwyllgor
Iechyd a Chwaraeon Llywodraeth yr Alban yn ystyried nad oedd cyngor iechyd
cymuned cenedlaethol sengl yn yr Alban yn ddigon annibynnol ar y llywodraeth.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i
ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6506 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu adeiladu uwch garchar ym Mhort Talbot. 2.
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i: a)
beidio â gwerthu neu ryddhau tir Llywodraeth Cymru at ddibenion adeiladu'r uwch
garchar arfaethedig; b)
datblygu'r economi leol drwy gefnogi busnesau yn y parc diwydiannol; ac c)
gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU yn cefnogi'r dewisiadau amgen i garchardai
mawr. Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn: Gwelliant 1. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: 1.
Yn croesawu'r buddsoddiad o £1.3 biliwn gan Lywodraeth y DU i foderneiddio a
diweddaru'r ystâd carchardai ar draws Cymru a Lloegr, gan greu cannoedd o
leoedd modern i garcharorion a disodli'r hen sefydliadau gorlawn gan adeiladau
newydd, addas i'r diben. 2.
Yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o hyrwyddo a chlustnodi'r safle
arfaethedig ym Mhort Talbot ar gyfer uwch garchar newydd yn ne Cymru. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymgynghoriad llawn a thrylwyr gyda
thrigolion a busnesau lleol ynghylch effaith debygol datblygu carchar newydd ym
Mhort Talbot. 4.
Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gynnal archwiliad llawn o'r safleoedd amgen,
gan gyhoeddi'r rhestr arfaethedig. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.45 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6506
Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu adeiladu uwch garchar ym
Mhort Talbot. 2. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i: a) beidio â gwerthu neu ryddhau tir Llywodraeth Cymru at ddibenion
adeiladu'r uwch garchar arfaethedig; b) datblygu'r economi leol drwy gefnogi busnesau yn y parc diwydiannol; ac c) gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU yn cefnogi'r dewisiadau amgen i
garchardai mawr.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn
croesawu'r buddsoddiad o £1.3 biliwn gan Lywodraeth y DU i foderneiddio a
diweddaru'r ystâd carchardai ar draws Cymru a Lloegr, gan greu cannoedd o
leoedd modern i garcharorion a disodli'r hen sefydliadau gorlawn gan adeiladau
newydd, addas i'r diben. 2. Yn
cydnabod rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o hyrwyddo a chlustnodi'r
safle arfaethedig ym Mhort Talbot ar gyfer uwch garchar
newydd yn ne Cymru. 3. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymgynghoriad llawn a thrylwyr gyda thrigolion
a busnesau lleol ynghylch effaith debygol datblygu carchar newydd ym Mhort
Talbot. 4. Yn
credu y dylai Llywodraeth Cymru gynnal archwiliad llawn o'r safleoedd amgen,
gan gyhoeddi'r rhestr arfaethedig. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei
ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, nid yw'r cynnig wedi ei
gymeradwyo. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.39 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau 20.09.17 Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6501 Huw
Irranca–Davies (Ogwr) Y
ddarpariaeth o ofal sylfaenol yn ardal Llanharan Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.42 NDM6501 Huw
Irranca–Davies (Ogwr) Y ddarpariaeth o ofal
sylfaenol yn ardal Llanharan. |