NDM6505 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM6505 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM6505 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, 'Gwasanaethau sy'n addas i’r dyfodol', sy'n ceisio ddiddymu cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru.

2. Yn cydnabod y rôl bwysig y mae cynghorau iechyd cymuned wedi'i chwarae o ran sicrhau atebolrwydd gwasanaethau cyhoeddus annibynnol a darparu llais cryf i gleifion yng Nghymru.

3. Yn credu y bydd cynigion y Papur Gwyn yn gwanhau lleisiau cleifion a chymunedau a lleihau lefel y gwaith craffu ar Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymestyn y cyfnod ymgynghori ar y Papur Gwyn, ar ôl methu ag ymgysylltu'n briodol â chynghorau iechyd cymuned, cleifion a'r cyhoedd yng Nghymru; a

b) gweithio mewn ffordd fwy adeiladol gyda'r cynghorau iechyd cymuned ar gynigion yn y dyfodol ar gyfer corff newydd i roi llais i'r bobl.

Dogfen Ymgynghori Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - 'Gwasanaethau sy'n addas i’r dyfodol'

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/09/2017

Angen Penderfyniad: 20 Medi 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd