Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Medi 2017 i’w hateb ar 20 Medi 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.

W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn Gymraeg.

 

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw Llefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

1. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith i sefydlu cofrestr cam-drin anifeiliaid yng Nghymru? (OAQ51033)

 

2. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynigion gan Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflwyno dulliau rheoli newydd ar gyfer pysgota eogiaid a sewin?

(OAQ51045)

3. Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr angen am asesiadau o effaith amgylcheddol? (OAQ51026)

 

4. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy'n cael eu cymryd i fonitro'r cynnydd a wneir mewn achosion o waith inswleiddio diffygiol ar waliau ceudod yng Nghymru? (OAQ51019)

 

5. Gareth Bennett (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer taliadau polisi amaethyddol cyffredin ar ôl Brexit? (OAQ51036)

 

6. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa fesurau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i gefnogi ffermwyr Cymru dros y 12 mis nesaf? (OAQ51001)

 

7. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y grant cyngor busnes Cyswllt Ffermio? (OAQ51024)

 

8. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lifogydd ar dir amaethyddol? (OAQ51031) W

 

9. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r amddiffynfeydd môr yn Hen Golwyn? (OAQ51007)

 

10. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lygredd yn afonydd Cymru? (OAQ51035)

11. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu dull Llywodraeth Cymru o annog prosiectau coetir trefol? (OAQ51028)

 

12. David Melding (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â llygredd plastig yng Nghymru? (OAQ51021)

 

13. Nathan Gill (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynglyn â datblygu dull tîm DU-gyfan ar gyfer amaethyddiaeth ar ôl Brexit? (OAQ51042)

 

14. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd dros y 12 mis nesaf i gefnogi ffermwyr yn Sir Benfro? (OAQ51009)

 

15. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i ganfyddiadau ClientEarth ynghylch meysydd chwarae mewn ysgolion sydd wedi'u gwenwyno o ganlyniad i lygredd aer? (OAQ51012)

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

1. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd mewn perthynas â chefnogi cymunedau yng Nghymru pan fydd Cymunedau yn Gyntaf wedi dod i ben? (OAQ51003)

 

2. Russell George (Sir Drefaldwyn): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda chymdeithasau tai mewn ymdrech i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol? (OAQ51023)

 

3. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa fesurau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i frwydro yn erbyn caethwasiaeth fodern dros y 12 mis nesaf? (OAQ51004)

 

4. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun peilot gofal plant Llywodraeth Cymru? (OAQ51034)

 

5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddigartrefedd ar Ynys Môn? (OAQ51027) W

 

6. Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae'n bwriadu cynyddu'r cymhellion yn y sector preifat i adeiladu mwy o gartrefi yng Nghymru? (OAQ51043) W

 

7. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio gorchmynion gwarchod mannau cyhoeddus er mwyn sicrhau diogelwch cymunedol? (OAQ51017)

 

8. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau i gyflawni gwasanaeth maethu cynaliadwy yng Nghymru? (OAQ51010)

 

9. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o wasanaethau cymorth lleol sydd ar gael i blant sy'n ffoaduriaid ar eu pen eu hunain? (OAQ51046)

 

10. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â cham-drin domestig? (OAQ51029)

 

11. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer tai dros y 12 mis nesaf? (OAQ51020)

 

12. Huw Irranca–Davies (Ogwr): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o lefel yr ymosodiadau ar staff rheng flaen yn y gwasanaeth tân? (OAQ51032)

 

13. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau cynghori yng Nghymru a all helpu i leihau pwysau a chostau ar gyfer hawlwyr lles? (OAQ51018)

 

14. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am waith swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yng Nghymru? (OAQ51030)

 

15. Leanne Wood (Rhondda): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â digartrefedd? (OAQ51044)