Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 69(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/05/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cofnod y Trafodion

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.19

Cynnig i Atal Rheolau Sefydlog Dros Dro

Dechreuodd yr eitem am 14.47

NNDM6313 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheolau Sefydlog 12.73 ac 11.16 er mwyn caniatáu i Ddadl Fer NDM6307, a gyflwynwyd gan Dawn Bowden, gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 16 Mai 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(45 munud)

3.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Gofal Diwedd Oes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.47

(45 munud)

4.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Arweinyddiaeth Addysgol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.36

(45 munud)

5.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Y Cynllun Gweithredu Dementia

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.21

(15 munud)

6.

Dadl: Cyfnod 4 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

NDM6312 Rebecca Evans (Gŵyr) 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 

Dogfennau Ategol
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Datganiad y Llywydd Yn unol ag Adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.01

NDM6312 Rebecca Evans (Gŵyr) 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Nid oedd cyfnod pleidleisio.

8.

Dadl Fer

NDM6307 Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)

Tanau trydanol - bygythiad cynyddol yn yr oes dechnolegol sydd ohoni.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.11

NDM6307 Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)

Tanau trydanol - bygythiad cynyddol yn yr oes dechnolegol sydd ohoni.