Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 11 Mai 2017
 i'w hateb ar 16 Mai 2017

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â llygredd yng Nghymru? OAQ(5)0592(FM)

 

2. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd chwaraeon proffesiynol i Gymru? OAQ(5)0597(FM)

 

3. Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i godi'r uchafswm cyfalaf ar gyfer y rhai a gaiff eu derbyn i ofal preswyl? OAQ(5)0598(FM)

 

4. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a gaiff ei wneud o ran strategaeth economaidd a diwydiannol Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0602(FM)

 

5. Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith cyfalaf ledled Cymru? OAQ(5)0600(FM)

 

6. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ffrwd Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu? OAQ(5)0608(FM)

 

7. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi aelodau'r lluoedd arfog yng Nghymru? OAQ(5)0593(FM)

 

8. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): Pa bolisi y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn i annog a chefnogi llwyddiant ym maes chwaraeon yng Nghymru? OAQ(5)0596(FM)

 

9. Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant gweithgynhyrchu? OAQ(5)0606(FM)

 

10. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwyno rhaglen Cyflymu Cymru yn Sir Drefaldwyn? OAQ(5)0594(FM)

 

11. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd): Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran gwella ymgysylltiad gwleidyddol â phobl ifanc? OAQ(5)0604(FM)

 

12. Rhianon Passmore (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu mentrau Llywodraeth Cymru sydd â'r nod o gynyddu nifer y nyrsys a gaiff eu haddysgu yng Nghymru? OAQ(5)0603(FM)

 

13. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi manwerthwyr annibynnol bach? OAQ(5)0599(FM)

 

14. Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A yw Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gohirio cyhoeddi unrhyw benderfyniad ynghylch cefnogaeth ariannol pellach i Gylchffordd Cymru tan ar ôl y cyfnod cyn-etholiad, hyd at 8 Mehefin? OAQ(5)0605(FM)W

 

15. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Benfro dros y 12 mis nesaf? OAQ(5)0591(FM)