Agenda, decisions and minutes
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 49(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 07/02/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd
y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y
Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn
2. Cofnodion: The item started at
13.30 Questions 1-7 were asked. The Presiding Officer invited party leaders to
ask questions to the First Minister after question 2. |
|||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys 1 I Ysgrifennydd y Cabinet dros
yr Economi a’r Seilwaith: Russell
George (Sir Drefaldwyn): A
wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae
Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu dyfodol ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar
Ogwr? Dechreuodd yr eitem am 14.17 |
||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys 2 I Ysgrifennydd y Cabinet dros
yr Economi a’r Seilwaith: Angela Burns (Gorllewin Caerfyddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y
Cabinet roi gwybod i'r Aelodau a yw'n bwriadu cymeradwyo cais Prifysgol Cymru y
Drindod Dewi Sant am grant o rhwng £4 miliwn a £6 miliwn i ariannu'r gwaith o
ddatblygu pencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin?
|
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.48 |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau ar y Galon Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.10 Cofnodion: The item started at 15.10 |
|||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: Menter Ymchwil Busnesau Bach - Gohiriwyd |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Gweithio Gyda'n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.48 |
|||||||||||||||||||||||||
(120 muned) |
Dadl: “Diogelu Dyfodol Cymru”: Pontio o'r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop NDM6228 Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
8.
Yn
mynnu y dylai unrhyw fargen derfynol gael ei datblygu er budd pennaf ein
heconomi a'n cymdeithas, ac nid ei llunio o amgylch buddiannau gwleidyddol cul. Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: 1. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro): Dileu
popeth a rhoi yn ei le: Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd. 2.
Yn croesawu 12 o amcanion negodi Llywodraeth y DU ar gyfer gadael yr Undeb
Ewropeaidd a chyhoeddi ei Phapur Gwyn.
3.
Yn nodi cyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru. 4.
Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i geisio tanio Erthygl 50 erbyn diwedd mis
Mawrth. 5.
Yn cydnabod cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac
yn croesawu ymrwymiad parhaus Prif Weinidog y DU i ymgysylltu â'r
gweinyddiaethau datganoledig a sicrhau'r fargen orau i Gymru a'r Deyrnas
Unedig. 'UK
Government White Paper' (Saesneg yn
unig) 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gwrthwynebu tanio Erthygl 50 heb sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd Cymru yn
parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl Ewropeaidd, o gofio pa mor bwysig i
Gymru yw cymryd rhan mewn marchnad sengl. Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 16.22 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM6228 1. Yn nodi nad yw Llywodraeth y DU wedi pennu
cynllun manwl eto i ddangos sut y dylai'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a sut
berthynas fydd rhyngddi a gweddill Ewrop yn y dyfodol. 2. Yn cydnabod canlyniad y refferendwm am
aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd. 3. Yn croesawu cyhoeddi'r Papur Gwyn, Diogelu
Dyfodol Cymru. 4. Yn cymeradwyo'r blaenoriaethau sy'n cael eu
nodi ynddo a'r dull gweithredu sy'n cael ei ddisgrifio. 5. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU lwyr barchu
blaenoriaethau Cymru, fel y'u nodir yn y Papur Gwyn, o fewn safbwynt negodi'r
DU yn gyfan, ac yn cefnogi'r ymdrechion parhaus gan Lywodraeth Cymru drwy'r
Cyd-bwyllgor Gweinidogion i ddarbwyllo Llywodraeth y DU am fanteision y dull
gweithredu hwn. 6. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i danio
Erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth. 7. Yn ailddatgan pwysigrwydd hanfodol Confensiwn
Sewel, ac yn credu y dylai hyn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU
ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig a cheisio'u cymeradwyaeth i'w
safbwynt negodi, cyn ac yn ystod y negodiadau, a'u cymeradwyaeth i unrhyw
gytundeb terfynol â'r Undeb Ewropeaidd. 8. Yn
mynnu y dylai unrhyw fargen derfynol gael ei datblygu er budd pennaf ein
heconomi a'n cymdeithas, ac nid ei llunio o amgylch buddiannau gwleidyddol cul. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod canlyniad y refferendwm ar aelodaeth
y DU o'r Undeb Ewropeaidd. 2. Yn croesawu 12 o amcanion negodi Llywodraeth
y DU ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd a chyhoeddi ei Phapur Gwyn. 3. Yn nodi cyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth
Cymru. 4. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i geisio
tanio Erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth. 5. Yn cydnabod cyfarfod y Cyd-bwyllgor
Gweinidogion a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac yn croesawu ymrwymiad parhaus Prif
Weinidog y DU i ymgysylltu â'r gweinyddiaethau datganoledig a sicrhau'r fargen
orau i Gymru a'r Deyrnas Unedig. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd
gwelliant 1. 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gwrthwynebu tanio Erthygl 50 heb sicrwydd gan
Lywodraeth y DU y bydd Cymru yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl
Ewropeaidd, o gofio pa mor bwysig i Gymru yw cymryd rhan mewn marchnad sengl. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd
gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6228 Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi nad yw Llywodraeth y DU wedi pennu
cynllun manwl eto i ddangos sut y dylai'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a sut
berthynas fydd rhyngddi a gweddill Ewrop yn y dyfodol. 2. Yn cydnabod canlyniad y refferendwm am
aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd. 3. Yn croesawu cyhoeddi'r Papur Gwyn, Diogelu
Dyfodol Cymru. 4. Yn cymeradwyo'r blaenoriaethau sy'n cael eu
nodi ynddo a'r dull gweithredu sy'n cael ei ddisgrifio. 5. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU lwyr barchu
blaenoriaethau Cymru, fel y'u nodir yn y Papur Gwyn, o fewn safbwynt negodi'r
DU yn gyfan, ac yn cefnogi'r ymdrechion parhaus gan Lywodraeth Cymru drwy'r
Cyd-bwyllgor Gweinidogion i ddarbwyllo Llywodraeth y DU am fanteision y dull
gweithredu hwn. 6. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i danio
Erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth. 7. Yn ailddatgan pwysigrwydd hanfodol Confensiwn
Sewel, ac yn credu y dylai hyn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU
ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig a cheisio'u cymeradwyaeth i'w
safbwynt negodi, cyn ac yn ystod y negodiadau, a'u cymeradwyaeth i unrhyw
gytundeb terfynol â'r Undeb Ewropeaidd. 8. Yn
mynnu y dylai unrhyw fargen derfynol gael ei datblygu er budd pennaf ein
heconomi a'n cymdeithas, ac nid ei llunio o amgylch buddiannau gwleidyddol cul.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i
ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.35 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |