NDM6228 Dadl: “Sicrhau Dyfodol Cymru”: Trefniadau pontio ar gyfer symud o aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop

NDM6228 Dadl: “Sicrhau Dyfodol Cymru”: Trefniadau pontio ar gyfer symud o aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop

NDM6228
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

  1. Yn nodi nad yw Llywodraeth y DU wedi pennu cynllun manwl eto i ddangos sut y dylai'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a sut berthynas fydd rhyngddi a gweddill Ewrop yn y dyfodol.

  2. Yn cydnabod canlyniad y refferendwm am aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.

  3. Yn croesawu cyhoeddi'r Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru.

  4. Yn cymeradwyo'r blaenoriaethau sy'n cael eu nodi ynddo a'r dull gweithredu sy'n cael ei ddisgrifio.

  5. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU lwyr barchu blaenoriaethau Cymru, fel y'u nodir yn y Papur Gwyn, o fewn safbwynt negodi'r DU yn gyfan, ac yn cefnogi'r ymdrechion parhaus gan Lywodraeth Cymru drwy'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion i ddarbwyllo Llywodraeth y DU am fanteision y dull gweithredu hwn.
     
  6. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i danio Erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth.

  7. Yn ailddatgan pwysigrwydd hanfodol Confensiwn Sewel, ac yn credu y dylai hyn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig a cheisio'u cymeradwyaeth i'w safbwynt negodi, cyn ac yn ystod y negodiadau, a'u cymeradwyaeth i unrhyw gytundeb terfynol â'r Undeb Ewropeaidd.

8.           Yn mynnu y dylai unrhyw fargen derfynol gael ei datblygu er budd pennaf ein heconomi a'n cymdeithas, ac nid ei llunio o amgylch buddiannau gwleidyddol cul.
Dogfen Ategol
Diogelu Dyfodol Cymru

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/09/2017

Angen Penderfyniad: 7 Chwe 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Jane Hutt AS