Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00-09.10) |
Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru Cofnodion: 1.1 Trafododd Archwilydd Cyffredinol
Cymru PAC(4)-34-15 papur 1 (Eitem 4) â'r Pwyllgor. |
|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 280KB) Gweld
fel HTML (294KB) |
||
(09.10) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Esgusododd Jocelyn Davies ei hun o dan Reol Sefydlog 18.8. Dirprwyodd Alun
Ffred Jones ar ei rhan. 1.3 Mae'r
datganiadau o ddiddordeb a wnaed yn y cyfarfod ar 12 Hydref yn berthnasol i'r
cyfarfod hwn. |
|
(09.10) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1
Nodwyd y papurau. |
|
(09.10-10.25) |
Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Sesiwn Dystiolaeth 7 Papur briffio gan y
Gwasanaeth Ymchwil Owen Evans –
Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus,
Llywodraeth Cymru James Price –
Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol – Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau
Naturiol, Llywodraeth Cymru John Howells –
Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru Christopher Munday
– Dirprwy Gyfarwyddwr, Atebion Busnes, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Yn rhan o'r ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, craffodd
y Pwyllgor ar Owen Evans, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol y Grŵp Addysg a
Gwasanaethau Cyhoeddus; James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol Grŵp yr
Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol; John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio;
a Christopher Munday, Dirprwy Gyfarwyddwr Atebion Busnes, Llywodraeth Cymru. |
|
(10.25) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 6, 7 a 8 a chyfarfodydd 12 a 19 Ionawr 2016 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.25-10.30) |
Blaenraglen waith: Ystyried y rhaglen waith ar gyfer gwanwyn 2016 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Cytunodd yr Aelodau ar y flaenraglen waith. |
|
(10.30-10.45) |
Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(10.45-11.00) |
Craffu ar Gyfrifon 2014-15: Ystyried yr adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Ystyriodd yr Aelodau yr adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis
Rhagfyr, a chytuno arno. |