Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Kay
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
(09:00-09:05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am ymadawiadau cynnar (Mehefin 2015) Dogfennau ategol: |
||
Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor Sir Powys am ymadawiadau cynnar (Mehefin 2015) Dogfennau ategol: |
||
Cyllid Iechyd 2013-14: Gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf (Mai 2015) Dogfennau ategol: |
||
(09:05-09:35) |
Gofal heb ei drefnu: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru Briff Cefndirol Briff gan Swyddfa Archwilio Cymru Dr Andrew
Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol,
Llywodraeth Cymru Joanna
Jordan - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol a Phartneriaethau, Llywodraeth
Cymru Dr Grant
Robinson - Arweinydd Clinigol Cenedlaethol Gofal heb ei Drefnu, Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Penderfynodd y Pwyllgor ddechrau’r sesiwn dystiolaeth gyda Dr Andrew Goodall,
Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru
gyda thrafodaeth ar lywodraethu byrddau iechyd. Oherwydd bod amser yn brin, ni
chyrhaeddwyd yr eitem hon a bydd yn cael ei haildrefnu. |
|
(09:35-10:30) |
Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru PAC(4)-17-15 Papur 1 - Adroddiad ar Ymyrraeth Benodol PAC(4)-17-15 Papur 2 - Siartiau Strwythur GIG Cymru Dr Andrew
Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol,
Llywodraeth Cymru Joanna Jordan
- Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol a Phartneriaethau, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru a Joanna Jordan, Cyfarwyddwr
Gwasanaethau Corfforaethol a Phartneriaethau, Llywodraeth Cymru, fel rhan o'i
ymchwiliad i Lywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru. 4.2
Cytunodd Dr Goodall i: · gadarnhau amseriad adroddiad Capita
ar gynllunio ariannol, pan fyddai’r Bwrdd yn trafod ei ymateb dros dro. · darparu nodyn o'r holl
ddigwyddiadau difrifol yn deillio o lefel nyrsys / ward yn ystod y deuddeg mis
diwethaf ledled Cymru. · darparu nodyn o aelodau annibynnol
presennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr a'u sgiliau a’r profiad o recriwtio pobl o gefndiroedd ariannol /
masnachol. · darparu nodyn ar gydymffurfio â’r
Polisi Disgyblu Cymru Gyfan (a chopi o'r polisi). · anfon copi o'r adroddiad gan y
Gymdeithas Frenhinol y Seiciatryddion a'r camau a gymerwyd. · darparu nodyn ar agweddau
gweithredol y gwasanaeth y tu allan i oriau. |
|
(10:30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 6 a
7 Cofnodion: 5.1
Gwrthodwyd y cynnig. |
|
(10:30-10:45) |
Gofal heb ei drefnu: Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1
Oherwydd bod amser yn brin, ni chyrhaeddwyd yr eitem hon. |
|
(10:45-11:00) |
Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru: Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1
Oherwydd bod amser yn brin, ni chyrhaeddwyd yr eitem hon. |