Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Kay
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Jocelyn Davies. Nid oedd dirprwy ar ei rhan. 1.3
Yn dilyn
ethol Aelodau i'r Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn ar 2 Mehefin, diolchodd y Cadeirydd
i William Graham am ei gyfraniad i'r Pwyllgor a chroesawodd Mohammad Asghar, a
oedd yn dychwelyd i'r Pwyllgor. 1.4
Datganodd
Sandy Mewies fuddiant fel Aelod o Gomisiwn y Cynulliad (eitem 2.1). |
|
(09:00-09:05) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd
at gyllideb Comisiwn y Cynulliad pan fydd yn craffu ar gyfrifon blynyddol y
Comisiwn yn nhymor yr hydref. |
|
Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Llythyr gan y Dirprwy Lywydd (1 Mehefin 2015) Dogfennau ategol: |
||
(09:05-09:35) |
Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Trafod yr adroddiad drafft PAC(4)-16-15
Papur 1 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1
Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft, gan gytuno arno yn amodol ar rai mân
newidiadau. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn y mis. |
|
(09:35-10:00) |
Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru PAC(4)-16-15 Papur 2 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nododd
yr aelodau y llythyr a gafwyd gan Dr Peter Higson (4 Mehefin) ynglŷn â
gohirio'r cam o anfon yr adroddiad ar statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Lleol
Prifysgol Betsi Cadwaladr at y Pwyllgor, a'r cyhoeddiad gan y Gweinidog Iechyd
a Gwasanaethau Cymdeithasol (8 Mehefin) bod mesurau arbennig wedi cael eu gosod
ar y bwrdd iechyd fel rhan o Fframwaith Uwchgyfeirio GIG Cymru. |
|
(10:00-10:10) |
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor PAC(4)-16-15 Papur 3 PAC(4)-16-15 Papur 4 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Nododd
yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor, a'r sylwadau a
wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol. 5.2
Cytunodd yr Aelodau y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i
ofyn am eglurder ynghylch argymhellion 1, 3, 7 ac 8. |
|
(10:10-10:20) |
Glastir: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor PAC(4)-16-15
Papur 5 PAC(4)-16-15
Papur 6 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Nododd
yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor, a'r sylwadau a
wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol. 6.2
Cytunodd yr Aelodau y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i
ofyn am eglurder ynghylch ymateb y Llywodraeth i argymhellion yr adroddiad. |
|
(10:20-10:35) |
Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Isadeiledd Band Eang y Genhedlaeth Nesaf PAC(4)-16-15
Papur 7 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Cafodd
y Pwyllgor sesiwn friffio gan yr Archwilydd Cyffredinol ar ei adroddiad
diweddar. 7.2
Cytunodd yr Aelodau gynnal ymchwiliad byr i'r pwnc hwn. |
|
(10:35-11:00) |
Y flaenraglen waith: Rhaglen waith Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2015-16 PAC(4)-16-15
Papur 8 PAC(4)-16-15
Papur 9 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1
Trafododd yr Archwilydd Cyffredinol ei raglen waith arfaethedig gyda'r Pwyllgor
a chroesawodd yr awgrymiadau a'r meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan Aelodau. |