Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Kay
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(08:30-08:40) |
Rheoli Ymadawiadau Cynnar Dogfennau ategol:
Cofnodion: 1.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb
Llywodraeth Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Reoli Ymadawiadau
Cynnar a llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhoi’r wybodaeth bellach y
gofynnodd y Pwyllgor amdani. |
|
(08:40-09:00) |
Blaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cytunodd yr Aelodau ar y rhaglen
waith ar gyfer tymor yr haf. 2.2 Absenolodd Jocelyn Davies ei hun
o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar fater yn ymwneud â chyfrifoldeb blaenorol
a oedd ganddi fel Gweinidog. |
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r
cyfarfod. 3.2 Cafwyd ymddiheuriadau
gan William Graham. 3.2 Croesawodd y Cadeirydd
Byron Davies a oedd yn dirprwyo ar ran William Graham. |
||
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nodwyd y papurau, gydag
un newid bach. 4.2 Cytunodd y Pwyllgor i
ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid gan roi cyfle i’r Pwyllgor wneud
gwaith craffu pellach ar y gronfa Buddsoddi i Arbed. |
||
Rheoli sefyllfaoedd lle mae pobl yn gadael eu: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru - Buddsoddi i Arbed (10 Mawrth 2015) Dogfennau ategol: |
||
(09:00-09:45) |
Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Sesiwn dystiolaeth 2 Yr Athro Nigel Smith, Ysgol Peirianneg Sifil, Prifysgol Leeds Kris Moodley, Prifysgol Leeds Yr Athro Bob Lark, Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, Prifysgol
Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan
academyddion o Brifysgol Leeds a Phrifysgol Caerdydd yn ei ymchwiliad i werth
am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd. |
|
(09:45-10:45) |
Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Sesiwn dystiolaeth 3 Rhodri-Gwynn Jones, Cyfarwyddwr, Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil
Cymru David Meller, Prif Beiriannydd, Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant
(Cangen Gogledd Cymru) Russell Bennett, Cadeirydd, Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant
(Cangen De Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan
Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil Cymru a Changhennau Gogledd a De Cymru
Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant yn ei ymchwiliad i werth am arian
Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd. 6.2 Cytunodd Russell Bennett o
Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant, Cangen De Cymru i ddarparu rhagor o
wybodaeth am fuddsoddi preifat. |
|
(10:45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 8 Cofnodion: 7.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:45-11:00) |
Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Trafod y dystiolaeth: Cofnodion: 8.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |