Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Sandy Mewies. Roedd Gwyn Price yn dirprwyo ar ei rhan. |
||
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y
papurau. |
||
(09:05-09:15) |
Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru PAC(4)-14-14(papur 1) Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Trafododd yr Aelodau lythyr gan yr Athro White a nodwyd bod yr
Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu adolygu'r argymhellion yn ei adroddiad yn
2011 ac yn adroddiad y Pwyllgor yn 2012. Cytunodd y Pwyllgor i ail-ystyried yr
eitem hon mewn cyfarfod yn yr hydref. |
|
(09:15-09:30) |
Bodloni'r Heriau Ariannol sy’n Wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru PAC(4)-14-14(papur 2) PAC(4)-14-14(papur 3) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Trafododd yr Aelodau yr ohebiaeth a chytuno i gynnal ymchwiliad byr
i'r mater yn ystod tymor yr haf. |
|
(09:30-10:30) |
Cyflogau Uwch-reolwyr: Sesiwn dystiolaeth 7 Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig Briff ymchwil Nick Bennett - Prif Weithredwr, Grŵp Cartrefi Cymunedol
Cymru Elaine Ballard - Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Taf Norma Barry – Cadeirydd Tai Calon Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Cafodd y Pwyllgor
dystiolaeth am gyflogau uwch-reolwyr gan Nick Bennett - Prif Weithredwr Grŵp Cartrefi Cymunedol
Cymru, Elaine Ballard - Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Taf, a Norma Barry -
Cadeirydd Tai Calon. 5.2 Cytunodd Nick Bennett i anfon dadansoddiad o'r gwahaniaethau rhwng y
siarter llywodraethu da presennol a'r cod drafft a fydd yn cymryd lle'r
siarter. |
|
(10:30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 7 a’r
cyfarfod ar 3 Mehefin 2014. Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:30-11:00) |
Cyflogau Uwch-reolwyr: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1 Trafododd yr Aelodau
y dystiolaeth a ddaeth i law. |