Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.00 - 09.45)

1.

Blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau. Trafododd y Pwyllgor y cylch gorchwyl a dull y Pwyllgor o gynnal yr ymchwiliad, a chytuno arno.

 

(09.45)

2.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle. Roedd Ann Jones yn dirprwyo.

 

(09.45 - 10.30)

3.

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Sesiwn dystiolaeth 1

Jeremy Sare, Sefydliad Angelus

Maryon Stewart, Sefydliad Angelus

Harry Shapiro, DrugScope  

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Maryon Stewart.

3.2 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

 

(10.45 - 11.30)

4.

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Sesiwn dystiolaeth 2

Yr Athro Philip Routledge OBE, Cadeirydd Bwrdd y Rhaglen, Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru (WEDINOS)

Josephine Smith, Arweinydd y Rhaglen, WEDINOS

Dr Quentin Sandifer, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

4.2 Cytunodd Dr Quentin Sandifer i roi gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor am y ffordd y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymgysylltu ac yn cyfathrebu â chymunedau yng Nghymru ynghylch sylweddau seicoweithredol newydd.

4.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at TICTAC i ofyn am eglurhad ynghylch a ydynt yn profi'r sylweddau a dderbynnir yn ogystal â darparu cofnod gweledol o beth yw'r cyffuriau.

 

(11.30 - 12.15)

5.

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Sesiwn dystiolaeth 3

Joanne Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cynllunio, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Jamie Harris, Rheolwr Gwasanaethau i Deuluoedd, Plant a Phobl Ifanc, SANDS Cymru (sef Prosiect Cyffuriau Abertawe gynt)*

Nicola John, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf*

Julia Lewis, Seiciatrydd Ymgynghorol ar Gaethiwed ac Arweinydd Clinigol ar gyfer Caethiwed, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Jonathan Whelan, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru*

 

*Nid oes papurau ysgrifenedig wedi’u cyflwyno.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

 

(13.15 - 14.15)

6.

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Sesiwn dystiolaeth 4

Kathryn Peters, Rheolwr Diogelwch Cymunedol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Y Cynghorydd Mark Child, deilydd portffolio Safonau Masnach, Cyngor Abertawe

Y Cynghorydd Andrea Lewis, Cyngor Abertawe

Angela Cronin, Gweithiwr Datblygu Iechyd a Lles, Gwasanaeth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr

Richard Webb, Cymdeithas Prif Swyddogion Safonau Masnach, Cyngor Sir Rhydychen

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Mark Child. Roedd Jackie Garland yn dirprwyo.

6.2 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

6.3 Cytunodd Richard Webb i ddarparu rhagor o wybodaeth am y pecyn cymorth sy'n cael ei ddatblygu gan swyddogion safonau masnach ar sut i fynd i'r afael â'r mater o sylweddau seicoweithredol newydd. Cytunodd hefyd i ddarparu barn ysgrifenedig ynghylch effaith Deddf Troseddau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Phlismona 2014 ar ddull gweithredu swyddogion safonau masnach tuag at sylweddau seicoweithredol newydd.

 

(14.15)

7.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.0a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 a 22 Hydref.

 

7.1

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Nodyn o'r ymweliadau a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2014

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1a Nododd y Pwyllgor y nodyn o'r ymweliadau a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2014 mewn perthynas â'r ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon").

 

7.2

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Nodyn o'r digwyddiadau grŵp ffocws a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2014

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.2a Nododd y Pwyllgor y nodyn o'r grwpiau ffocws a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2014 mewn perthynas â'r ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon").

 

7.3

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Canlyniadau Arolwg y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.3a Nododd y Pwyllgor ganlyniadau arolwg y Pwyllgor mewn perthynas â'r ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon").

 

7.4

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Ymatebion i'r ymgynghoriad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.4a Nododd y Pwyllgor yr ymatebion i'r ymgynghoriad mewn perthynas â'r ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon").

 

7.5

Y Papur Gwyn ar Iechyd y Cyhoedd: Yn dilyn o 8 Hydref 2014

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.5a Nododd y Pwyllgor yr ymatebion gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Swyddog Meddygol mewn perthynas â'r brîff ffeithiol ar y Papur Gwyn ar Iechyd Cyhoeddus.

 

7.6

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau P-04-568 Ymchwiliad Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.6a Er nad yw hwn yn fater y mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei ystyried ar hyn o bryd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i hysbysu'r Pwyllgor Deisebau fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cynnal darn o waith ar lywodraethiant byrddau iechyd yn GIG Cymru. Cytunodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i aros am ganlyniad yr ymchwiliad hwnnw cyn ystyried y mater ymhellach.

 

(14.15)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

8.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.15 - 14.45)

9.

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gyfer yr ymchwiliad.