Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd
Mae Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal
ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd.
Ystyriodd y Pwyllgor y meysydd canlynol
fel rhan o’i ymchwiliad:
- Sut i godi
ymwybyddiaeth o’r niwed sy’n gysylltiedig â’r defnydd o sylweddau seicoweithredol newydd ymhlith y
cyhoedd a’r rhai sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus perthnasol.
- Gallu
gwasanaethau lleol ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth o’r niwed sy’n
gysylltiedig â’r defnydd o sylweddau
seicoweithredol newydd, ac i
ymdrin ag effaith y niwed hwn.
- Effeithiolrwydd
y dulliau o gasglu data ac adrodd ar y defnydd o sylweddau seicoweithredol newydd yng
Nghymru, a’u heffeithiau.
- Y dulliau
deddfwriaethol posibl o fynd i’r afael â’r mater o sylweddau seicoweithredol newydd, ar lefel
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
- Pa mor
effeithiol y caiff y dull partneriaeth i fynd i’r afael â’r mater o sylweddau seicoweithredol newydd yng Nghymru
ei gydlynu, o fewn Cymru a rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
- Tystiolaeth
ryngwladol am ddulliau gweithredu a ddefnyddiwyd o ran sylweddau seicoweithredol newydd mewn
gwledydd eraill.
I’w nodi: Mae sylweddau seicoweithredol newydd (y
cyfeirir atynt yn aml fel “cyffuriau penfeddwol cyfreithlon”) yn gyffuriau sydd
wedi’u cyfuno i ddynwared effeithiau cyffuriau anghyfreithlon ac sy’n cael eu
ceisio ar gyfer defnydd meddwol. Oherwydd eu bod newydd eu creu, nid ydynt yn
cael eu rheoli yn awtomatig o dan ddeddfwriaeth cyffuriau (yn y DU, Deddf
Camddefnyddio Cyffuriau 1971). Gall y term hefyd gynnwys sylweddau o darddiad
llysieuol (“cyffuriau penfeddwol llysieuol”).
Tystiolaeth
gan y Cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.
Cyhoeddodd y Pwyllgor arolwg i gasglu tystiolaeth
ynghylch ymwybyddiaeth o sylweddau seicoweithredol newydd a’r defnydd ohonynt.
Mae adroddiad
(PDF, 394 KB) a fideo
sy’n rhoi crynodeb o’r arolwg hefyd wedi’i gynhyrchu.
Tystiolaeth
gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Derbyniodd y Pwyllgor tystiolaeth
gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PDF, 309KB).
Gwybodaeth
ychwanegol
Gwybodaeth
ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol [Saesneg yn unig]
(PDF,157KB).
Gweithgareddau
ymgysylltu
Nodyn
o'r ymweliadau a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2014 (PDF, 133KB).
Nodyn
o'r digwyddiadau grŵp ffocws a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2014, (PDF,
270KB).
Storify
Storify
gan y Pwyllgor o'i ymchwiliad.
Adroddiad
y Pwyllgor
Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad
(PDF, 865KB) ym mis Mawrth 2015.
Cyhoeddwyd diweddariad
i’r adroddiad cryno (PDF, 265KB) ym mis Mawrth 2016 i adlewyrchu’r
datblygiadau polisi diweddar ar lefelau Cymru, y DU ac Ewrop.
Ysgrifennodd
Gweinidog Atal Trosedd Llywodraeth y DU at y Pwyllgor ar 27 Mawrth 2015 i
amlinellu barn y Swyddfa Gartref ar adroddiad y Pwyllgor [Saesneg yn unig]
(PDF, 69KB). Ymatebodd
Llywodraeth Cymru (PDF, 124KB) yn Mai 2015.
Dadl yn y
Cyfarfod Llawn
Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y
Pwyllgor ar 13
Mai 2015.
Cymorth a chefnogaeth
Os yw sylweddau seicoweithredol newydd wedi
effeithio arnoch chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, neu os hoffech ragor o
wybodaeth amdanynt, gallwch gysylltu â DAN 24/7 i gael cyngor. Llinell gymorth
gyfrinachol yw DAN 24/7 ac mae ar gael am ddim i unrhyw un yng Nghymru sydd am
gael rhagor o wybodaeth neu gymorth mewn perthynas â chyffuriau neu alcohol.
Cewch ragor o wybodaeth yma: http://www.dan247.org.uk/Drug_NewPsychoactiveSubstances.asp
Rhadffon: 0808 808 2234
Neu tecstiwch DAN i: 81066
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/07/2014
Dogfennau
- Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd - Adroddiad cryno
PDF 236 KB
- Adroddiad - Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd
PDF 866 KB
- Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd - Adroddiad cryno (Mawrth 2016)
PDF 265 KB
Ymgynghoriadau
- Sylweddau seicoweithredol newydd (Wedi ei gyflawni)