Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Llinos Madeley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Darren Millar AC. Dirprwyodd Mohammad Asghar AC ar ei ran. |
||
(09:30 - 11:00) |
Ymchwiliad i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: Tystiolaeth gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Kate Chamberlain, Prif Weithredwr Mandy Collins, Dirprwy Brif Weithredwr Alyson Thomas, Diprwy Gyfarwyddwr Adolygu Gwasanaethau a
Datblygu Sefydliadol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1
Ymatebodd cynrychiolwyr o Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i gwestiynau gan
aelodau’r pwyllgor. 2.2 Nododd
y tystion y byddent yn croesawu cyfle i ddychwelyd i siarad â’r Pwyllgor pan fo
cynllun busnes yr Arolygiaeth ar gyfer y dyfodol ar gael. |
|
(11:15 - 12:15) |
Papur briffio ffeithiol ar y Papur Gwyn ar Ddyfodol Rheoleiddio ac Arolygu Gofal a Chymorth yng Nghymru David Pritchard, Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu’r
Gweithlu Emma Coles, Pennaeth Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau
Cymdeithasol
Cofnodion: 3.1 Cafodd
yr aelodau bapur briffio ffeithiol ar y Papur Gwyn, Dyfodol Rheoleiddio ac
Arolygu Gofal a Chymorth yng Nghymru. |
|
(13:00 - 14:00) |
Ymchwiliad i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: Tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol Grant Duncan, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyfarwyddiaeth dros
Iechyd Cyhoeddus Janet Davies, Cynghorydd Arbenigol - Ansawdd a Diogelwch Cleifion
Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Holodd
y Pwyllgor y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gwaith
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. 4.2
Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu i’r Pwyllgor er mwyn egluro a yw rhaglen
waith yr Arolygiaeth yn cael ei chymeradwyo gan un o’i gyd-Weinidogion.
|
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig ar y Bil Gofal - trefniadau cyfatebol ar gyfer awdurdodau lleol yn yr Alban Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Nododd
y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: gwybodaeth ddilynol yn dilyn y cyfarfod ar 9 Hydref ynghylch gofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14 Dogfennau ategol: Cofnodion: 10.2 Nododd
y Pwyllgor y llythyr. |
||
Llythyr gan Fwrdd Rhaglen Cynllun De Cymru: rhagor o wybodaeth ddilynol yn dilyn y cyfarfod ar 3 Hydref ynghylch ad-drefnu gwasanaethau byrddau iechyd lleol Dogfennau ategol: Cofnodion: 10.3 Nododd
y Pwyllgor y llythyr. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer eitemau 1 a 2 ar agenda’r cyfarfod ar 13 Tachwedd Cofnodion: 6.1
Derbyniwyd y cynnig. |
||
(14:00 - 14:15) |
Trafod ymchwiliad arfaethedig y Pwyllgor i gaethiwed i feddyginiaethau a geir ar bresgripsiwn a dros y cownter Cofnodion: 7.1
Trafododd y Pwyllgor yr ymchwiliad arfaethedig i gaethiwed i feddyginiaethau a
geir ar bresgripsiwn a dros y cownter. Cytunodd yr aelodau i ohirio dechrau’r
ymchwiliad tan fod y gwaith a amlinellir yn Gweithio Gyda’n gilydd i Leihau
Niwed - Cynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau 2013-15 - y bwriedir iddo
gael ei gyflawni erbyn mis Mawrth 2014 - wedi’i gwblhau. |
|
(14:15 - 14:30) |
Trafod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol: y Bil Gofal Cofnodion: 8.1
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil
Gofal a chytunodd i ystyried adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf ar 13
Tachwedd 2013. |