Gwaith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Gwaith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Bu Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad byr i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ystod tymhorau’r hydref-gaeaf 2013-14.

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd i ganolbwyntio ar:

  • Pa mor effeithiol yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wrth gyflawni ei phrif swyddogaethau a chyfrifoldebau statudol.
  • Swyddogaethau ymchwilio ac archwilio Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn benodol ei chyfrifoldebau o ran sicrhau bod gan gleifion fynediad i wasanaethau diogel ac effeithiol, a pha mor ymatebol ydyw i achosion o bryder difrifol a methiannau systematig.
  • Datblygiad ac atebolrwydd cyffredinol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, gan gynnwys a yw’r sefydliad yn addas i’r diben.
  • Pa mor effeithiol yw perthnasau gwaith, gan ganolbwyntio ar gydweithio a rhannu gwybodaeth rhwng Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, rhanddeiliaid allweddol a chyrff adolygu eraill.
  • Ystyried rôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o ran cryfhau llais cleifion a’r cyhoedd yn y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd eu hadolygu.
  • Trefniadau diogelu, yn benodol trin chwythu’r chwiban a gwybodaeth am gwynion.

 

Tystiolaeth gan y Cyhoedd

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

 

Adroddiad y Pwyllgor

Cyflwynodd y Pwyllgor adroddiad (PDF, 790KB) ym mis Mawrth 2014. Ymatebodd Llywodraeth Cymru (PDF, 222KB) ym mis Mai 2014.

 

Dadl yn y Cyfarfod Llawn

Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor ar waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar 4 Mehefin 2014.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/07/2013

Dogfennau

Ymgynghoriadau