Cynigion ar gyfer deddfwriaeth ar reoleiddio ac arolygu gofal a chymorth

Cynigion ar gyfer deddfwriaeth ar reoleiddio ac arolygu gofal a chymorth

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar 30 Medi 2013 er mwyn ceisio barn ar ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth ar gyfer model o ofal a chymorth ar sail llesiant dinasyddion a gwell ganlyniadau iddynt, gan sicrhau'r un pryd bod darparwyr gwasanaethau a'r gweithlu yn bodloni safonau ansawdd. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 6 Ionawr 2014. Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru sesiwn friffio ffeithiol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ar 7 Tachwedd 2013 er mwyn cael trosolwg o'r Papur Gwyn ar Ddyfodol Rheoleiddio ac Arolygu Gofal a Chymorth yng Nghymru, strategaeth yr ymgynghoriad, a'r amserlen ar gyfer y camau nesaf.

 

Mae'r holl wybodaeth am ystyriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) ar gael ar wefan y Bil.

Math o fusnes: Gwaith cyn y broses Ddeddfu (e.e. Papurau Gwyn)

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/10/2013