Gofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14

Gofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14

Mewn ymateb i bwysau parhaus ar wasanaethau gofal heb ei drefnu yng Nghymru yn ystod 2012/13, gwahoddodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i sesiwn dystiolaeth ar ofal heb ei drefnu: bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14 ar 9 Hydref 2013. Diben y sesiwn hon oedd cael sicrwydd bod ein gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau ambiwlans yn gallu ymdopi â’r pwysau cynyddol sy’n debygol o fod arnynt yn ystod gaeaf 2013/14 o ran gofal heb ei drefnu. Nododd y Pwyllgor y materion penodol a ganlyn i’w hystyried:

 

  • a fu digon o gynnydd o ran cyflawni prif flaenoriaethau’r Gweinidog i leddfu’r pwysau ar ofal heb ei drefnu a beth yw’r sefyllfa ar hyn o bryd;
  • enghreifftiau o gamau effeithiol a gymerwyd yn gyflym i leddfu’r pwysau ar ofal heb ei drefnu, yn enwedig o ran gwasanaethau ambiwlans brys a gwasanaethau acíwt mewn ysbytai;
  • y cynlluniau a’r datrysiadau i ymdrin â phwysau’r gaeaf yn 2013/14, gan gynnwys a oes gan ysbytai y capasiti cywir i fodloni’r angen;
  • a oes mesurau angenrheidiol ar waith i leddfu’r pwysau sylweddol y gall y galw am ofal heb ei drefnu ei gael ar yr holl system, gan gynnwys a fydd cyllid ychwanegol yn cael ei dargedu at y meysydd hynny sydd o dan y pwysau mwyaf; a’r
  • heriau a chynlluniau hirdymor i wella’r sefyllfa ar gyfer y dyfodol, gan fynd y tu hwnt i wasanaethau mewn ysbytai a gwasanaethau ambiwlans i gwmpasu darpariaeth yn y gymuned.

 

Casglu tystiolaeth

 

Wnaeth y Pwyllgor glywed tystiolaeth lafar gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar 9 Hydref 2013.

 

 

Llythyr y Pwyllgor

 

Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 260KB) ym mis Rhagfyr 2013. Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 313KB) ym mis Chwefror 2014.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/12/2013

Dogfennau