Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson  029 2089 8639

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro

Cofnodion:

1.1 Cafodd William Powell ei ethol yn Gadeirydd dros dro.

 

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Ffred Jones. Nid oedd unrhyw ddirprwyon.

 

(09:30 - 11:30)

3.

Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) – Cyfnod 1: Sesiwn dystiolaeth 14

Carl Sargeant AC, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol 

Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Dyfodol Tecach

Andrew Charles, Pennaeth Datblygu Cynaliadwy

Sioned Rees, Dirprwy Gyfarwyddwr, Partneriaethau Llywodraeth Leol

Louise Gibson, Cyfreithiwr

Amina Rix, Cyfreithiwr

Cofnodion:

3.1 Atebodd y Gweinidog a’i swyddogion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog i:

 

·         Ddarparu eglurhad ynghylch a fydd Llywodraeth Cymru yn ceisio statws Ystadegau Cenedlaethol ar gyfer dangosyddion sy'n cael eu datblygu i fesur cynnydd o ran cyflawni'r nodau lles;

·         Egluro sut y bydd Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn cyd-fynd ac yn rhyngweithio ag egwyddorion, strwythurau a'r canlyniadau a ddymunir ar gyfer y Bil Cynllunio (Cymru) a'r Bil Amgylchedd arfaethedig;

·         Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am rôl Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn perthynas â'r Bil ac i egluro'r pryderon y mae wedi'u codi o ran ei bwerau, yn dilyn ei gyfarfod gydag ef.

 

 

 

(11:30 - 12:00)

4.

Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Bu aelodau'r pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law hyd yn hyn mewn perthynas â Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

 

5.

Ymchwiliad i’r ystâd goedwig gyhoeddus yng Nghymru: Trafod llythyr drafft i'r Gweinidog

Cofnodion:

5.1 Cytunodd aelodau'r pwyllgor ar y llythyr.

 

(12:45 - 14:45)

6.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2015-2016: Sesiwn dystiolaeth

E&S(4)-25-14 papur 1

 

Carl Sargeant AC, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Rebecca Evans AC, Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Andrew Slade, Cyfarwyddwr Amaeth, Bwyd a'r Môr

Dr Christianne Glossop, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol
Matthew Quinn, Cyfarwyddwr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Rosemary Thomas, y Prif Gynllunydd, Dirprwy Gyfarwyddwr

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog yn ateb cwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:

 

·         Gwerthiant coedwigaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru;

·         Yr effaith ar Gymru yn dilyn newidiadau Llywodraeth y DU i Rwymedigaeth y Cwmnïau Ynni; a

·         Nifer cynlluniau Ynni'r Fro a'u lleoliad ledled Cymru.

 

Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:

 

·         Goblygiadau ariannol Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014; a'r

·         Cydgysylltu o ran gwariant y Llywodraeth ar ddigwyddiadau hyrwyddo bwyd.

 

7.

Papurau i'w nodi

7.1

Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Rhagor o wybodaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru

E&S(4)-25-14 papur 2

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

7.2

Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Rhagor o wybodaeth gan Gynghrair Cynhalwyr Cymru

E&S(4)-25-14 papur 3

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.2 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

7.3

Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Rhagor o wybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

E&S(4)-25-14 papur 4

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.3 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

7.4

Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Ymateb gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i'r llythyr gan y Cadeirydd

E&S(4)-25-14 papur 5

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.4 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 

7.5

Craffu ar waith y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog yn dilyn cyfarfod 17 Medi

E&S(4)-25-14 papur 6

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.5 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

7.6

Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd: Rhagor o wybodaeth gan y Dirprwy Weinidog yn dilyn cyfarfod 17 Medi

E&S(4)-25-14 papur 7

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.6 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

(14:45 - 15:00)

8.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2015-2016: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog.