Ymchwiliad i’r ystâd goedwig gyhoeddus yng Nghymru

Ymchwiliad i’r ystâd goedwig gyhoeddus yng Nghymru

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn wedi cynnal ymchwiliad i’r ystâd goedwig gyhoeddus yng Nghymru .   

Diben yr ymchwiliad oedd ystyried sut y bu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rheoli'r ystâd goedwig gyhoeddus ac yn darparu gwasanaethau coedwigaeth i'r sector yng Nghymru ers creu'r corff ym mis Ebrill 2013.

Cylch gorchwyl

Asesu rheolaeth yr ystad goedwigaeth gyhoeddus yng Nghymru a'r ddarpariaeth o wasanaethau coedwigaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn enwedig:

  • Gweithrediadau a ffocws masnachol CNC;
  • Darparu cyngor busnes a chymorth i'r sector coedwigaeth yng Nghymru;
  • Rheoli achosion o glefydau ar yr ystad goedwigaeth gyhoeddus; a'r
  • Cynnydd a wnaed gan CNC i gyflawni argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru.

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/04/2014

Dogfennau

Ymgynghoriadau