Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Williams Deputy Clerk: Ruth Hatton
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James AC.
Dirprwyodd Mick Antoniw AC ar ei rhan. |
|
CLA414 - Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2014 Y weithdrefn negyddol; Fe'u gwnaed ar: 18 Mehefin 2014; Fe'u gosodwyd ar:
20 Mehefin 2014; Yn dod i rym ar: 16 Gorffennaf 2014. |
|
CLA415 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2014 Y weithdrefn negyddol; Fe'u gwnaed ar: 20 Mehefin 2014; Fe'u gosodwyd ar:
24 Mehefin 2014; Yn dod i rym ar: 19 Gorffennaf 2014. Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau statudol ac roedd yn fodlon arnynt. |
|
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3 CLA(4)-18-14 – Papur 1 –
Offerynnau statudol sydd ag adroddiadau clir Dogfennau ategol: |
|
Deddfwriaeth arall |
|
Cod Ymarfer a Argymhellir ar gyfer Cyhoeddusrwydd Awdurdodau Lleol yng Nghymru CLA(4)-18-14 – Papur 2 – Cod Ymarfer a
Argymhellir ar gyfer Cyhoeddusrwydd Awdurdodau Lleol yng Nghymru CLA(4)-18-14 – Papur 3 – Memorandwn Esboniadol CLA(4)-18-14 – Papur 4 – Adroddiad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Cod ac roedd yn fodlon ag ef. |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3): Y Bil Dadreoleiddio CLA(4)-18-14 – Papur 5 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3): Y Bil Dadreoleiddio CLA(4)-18-14 - Nodyn Cyngor Cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol a
chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad. |
|
Cynnig gan y Comisiwn Ewropeaidd ar wahardd rhwydi drifft COM(2014)265 CLA(4)-18-14 – Papur 6 – Cynnig
gan y Comisiwn Ewropeaidd ar wahardd rhwydi drifft. CLA(4)-18-14 – Papur 7–
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd CLA(4)-18-14 – Papur Briffio'r Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn trafod y cynnig a chytunodd i anfon sylwadau at Gomisiwn
yr UE a Llywodraeth Cymru. |
|
Papurau i’w nodi |
|
Llythyr gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Bil Cymru CLA(4)-18-14 – Papur 8 – Llythyr gan y
Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Bil Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth. |
|
Araith Dr Hywel Francis AS i'r Comisiwn Hawliau Dynol, Mawrth 2014 CLA(4)-18-14 – Papur 9 – Araith Dr Hywel
Francis AS i'r Comisiwn Hawliau Dynol, Mawrth 2014 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y papur. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: (vi) lle mae’r Pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion
adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i'w gyhoeddi. Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y cyfarfod yn breifat. |
|
Adroddiad drafft ar yr ymchwiliad i anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru CLA(4)-18-14 –Papur 10 - Adroddiad
Drafft |