Ymchwiliad i gynigion arfaethedig y Comisiwn Ewropeaidd i wahardd pysgodfeydd rhwydi drifft:

Ymchwiliad i gynigion arfaethedig y Comisiwn Ewropeaidd i wahardd pysgodfeydd rhwydi drifft:

Cynhaliodd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i gynigion y Comisiwn Ewropeaidd mewn perthynas â gwahardd pysgodfeydd rhwydi drifft.

 

Diben yr ymchwiliad hwn oedd ystyried effeithiau posibl cynigion y Comisiwn Ewropeaidd i wahardd pysgodfeydd rhwydi drifft ar Gymru.

 

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut wnaeth y Pwyllgor ystyried cynigion yr UE ewch i'n tudalen we ar Faterion Ewropeaidd

 

Cylch gorchwyl

 

Roedd yr ymchwiliad yn ystyried:

  • Effaith y cynigion hyn ar bysgodfeydd Cymru os na chânt eu newid; a
  • Sut y dylid newid y cynigion i ddiogelu pysgodfeydd cynaliadwy yng Nghymru.

 

Rhagor o wybodaeth

 

Fe wnaeth y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd gynnal trafodaeth bwrdd crwn gyda rhanddeiliaid ar 26 Chwefror 2015. Gellir gweld tystiolaeth ysgrifenedig gan randdeiliaid ar yr Agenda.

 

Yn ogystal, gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gynigion y Comisiwn Ewropeaidd yng nghofnod blog ein Gwasanaeth Ymchwil [Opens in a new browser window].

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor yn SeneddAmgylch@Cynulliad.Cymru

 

Math o fusnes:

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/02/2015

Dogfennau