Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at staff
Comisiwn y Cynulliad i gysylltu â Mr James yn uniongyrchol i ddilyn unrhyw
faterion heb eu datrys mewn cysylltiad â natur a rôl y Grwpiau Trawsbleidiol. |
|
P-04-468 Pryderon am Ddiogelwch Ffordd A48 Cas-gwent Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr
Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: ·
Gan dynnu
ei sylw at farn y deisebydd ac yn enwedig pa mor gymharol hawdd y gallai fod i
addasu’r terfyn cyflymder yn ôl i 30 mya; a ·
Gofyn iddi
i ddarparu rhagor o wybodaeth, gan gynnwys amserlen, ar gyfer yr astudiaeth
ddichonoldeb a nodwyd yn ei llythyr dyddiedig 7 Hydref 2014. |
|
P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ysgrifennu
at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: o
Yn gofyn am
y wybodaeth ddiweddaraf am ei datganiad ysgrifenedig a sylwadau’r deisebydd; o
Yn gofyn am
ragor o wybodaeth am ei pharatoadau cyn adnewyddu’r fasnachfraint sy’n ddyledus
yn 2018, gan gynnwys sut y bydd yn casglu a choladu gwybodaeth a dderbyniwyd am
sylwadau a fynegwyd yn ymwneud â darparu gwasanaethau rheilffyrdd; a ·
thynnu
sylw’r deisebydd at y tendr arfaethedig. |
|
P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y
Gweinidog Addysg a Sgiliau: ·
Yn gofyn am
ei sylwadau ar yr ohebiaeth bellach a dderbyniwyd a gofyn ei fod yn rhoi gwybod
i’r Pwyllgor am ei ystyriaeth o’r ymgynghoriad yn Lloegr; ·
Yn gofyn
iddo amlinellu’r rhesymau dros beidio â chynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd; a ·
Chyfleu
barn y Pwyllgor bod hwn yn faes lle dylai Cymru fod yn rhagweithiol ac y
byddai’n anffodus pe byddai Cymru yn llusgo y tu ôl i Loegr o ran hygyrchedd
gwybodaeth am bresenoldeb a rheoli asbestos mewn adeiladau ysgol. |
|
P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: The
Committee considered correspondence on the petition and agreed to write to: ·
The
Chair of the Children, Young People and Education Committee to ask the
Committee to consider including the issue raised in this petition and also a
petition currently collecting signatures - Ensure schools exercise their
statutory powers under regulation 7 of The Education (Pupil Registration)
(Wales) Regulations 2010 without interference or bias - on their Forward Work
Programme; ·
Estyn
to ask for clarification on how the issue of attendance is considered within
the inspection regime; ·
All
Local Authorities asking each one to set out how they interpret the guidance on
school attendance; and ·
The
Children’s Commissioner to ask for further information on the nature of the
concerns raised with his Investigation and Advice Service. |
|
P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant Dogfennau ategol:
Cofnodion: The
Committee considered correspondence on the petition and agreed to: • Write to the new Minister responsible
for this area to confirm that he is still committed to the approach and commitments
made by the previous Deputy Minister for Social Services and how the policy
will be developed beyond the life of the current Action Plan and across Wales;
and • Seek a progress report from Hywel Dda
Local Health Board as requested by the petitioners. |
|
P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach
gan y deisebwyr. |
|
P-04-527 Ymgyrch i gael Cronfa Cyffuriau Canser Arbennig yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
Ofyn am
sylwadau pellach gan y deisebydd; ac ·
Ysgrifennu
eto at Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn gofyn am yr ymateb sydd
heb ddod ac yn mynegi pryder am eu diffyg ymateb i lythyrau gan y Pwyllgor. |
|
P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
Ysgrifennu
at y deisebydd yn gofyn iddo ddarparu tystiolaeth gryno a chadarn a adolygir
gan gymheiriaid er mwyn dangos yr angen am ymchwiliad; ac ·
Unwaith y
bydd ymateb y deisebydd wedi dod i law, ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am ei farn am y dystiolaeth a’r wybodaeth a
ddarparwyd gan OFCOM ac a yw Canolfan Iechyd y Cyhoedd Lloegr ar Beryglon
Ymbelydrol, Cemegol ac Amgylcheddol (PHE-CRCE) yn ystyried tystiolaeth o Gymru
o ran rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru. |
|
P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at: ·
arweinydd
Cyngor Caerdydd yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa a gofyn am
ragor o wybodaeth am y diddymiad os yw ar gael, er mwyn caniatáu i’r Pwyllgor
drefnu ymweliad â’r adeilad; ·
y Dirprwy
Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn gofyn beth yw rôl Llywodraeth
Cymru yng ngoleuni diddymiad y cwmni daliannol; a ·
Stephen
Doughty AS, gan anfon copi at Vaughan Gething AC, i dynnu ei sylw at y ddeiseb
a gofyn am y diweddaraf am ei ymgyrch. |
|
P-04-422 Ffracio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
Ysgrifennu
at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol newydd yn gofyn am ei ymateb i ddogfen y
deisebydd a’i farn ar y ‘ddeiseb’ gysylltiedig a gyflwynwyd i’r Prif Weinidog
sydd yn ôl y sôn wedi casglu 90,000 o lofnodion; ac ·
Anfon y
wybodaeth a gyflwynwyd gan Gyfeillion y Ddaear Cymru i Gyfoeth Naturiol Cymru
(NRW), gan dynnu eu sylw’n arbennig at y sylwadau ar dudalen 2 am y diffyg
arweiniad a ddarperir gan NRW. |
|
P-04-524 Rheolaeth Gynllunio a’r Gymraeg Dogfennau ategol:
Cofnodion: The
Committee considered correspondence on the petition and agreed to: ·
Seek
further comments from the petitioner; and ·
Write
again to the Welsh Language Commissioner seeking a response to earlier
correspondence. |
|
P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrïoedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: The
Committee considered correspondence on the petition and agreed to: ·
Seek
the Minister for Natural Resources’ views on the petitioner’s further comments
and asking him to clarify why it is not appropriate to read across the findings
and conclusions from the PCIFAP study in the USA and to provide further
evidence for his view that larger farms don’t affect the viability of smaller
farms; and ·
Write
again to the Chair of the Environment and Sustainability Committee asking
whether they could consider looking at these issues as part of their forward
work programme. |
|
P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau Dogfennau ategol:
Cofnodion: The
Committee considered correspondence on the petition and agreed to ask the
Minister for Communities and Tackling Poverty if her officials, whose diary
commitments may not be so extensive, would be prepared to meet the petitioners
as requested. |
|
P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i drefnu sesiwn dystiolaeth yn unol
â chais y deisebwyr. |