Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Abigail Phillips  Dirprwy Glerc: Sarita Marshall

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

9.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins.  Roedd Rhodri Glyn Thomas yn dirprwyo ar ei rhan.

 

9.30-9.40

2.

Deisebau newydd

2.1

P-04-344 Carthffos gyhoeddus yn Freshwater East

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd i’r tîm clercio am brosesu’r ddeiseb yn gyflym.

 

Cytunodd y Pwyllgor:
i ddisgwyl am ymateb gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy;
i ysgrifennu at Dŵr Cymru Welsh Water.

 

2.2

P-04-345 Cysylltiadau bws a rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ddisgwyl ymatebion gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, ac i ddisgwyl ymatebion i’r ymgynghoriad a fydd yn dod i ben ar 6 Ionawr 2012.

 

2.3

P-04-346 Gofal di-dâl i blant 3 a 4 oed yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor:
i ddisgwyl ymateb gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau;
i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru, i holi eu barn am y mater; ac
i gyhoeddi ymgynghoriad wedi’i dargedu.

 

2.4

P-04-347 Adolygu eiddo ac asedau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor:
i ddisgwyl ymateb gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ;
i ysgrifennu at Peter Black AC, Comisiynydd y Cynulliad sy’n gyfrifol am yr ystâd a chyfleusterau’r Cynulliad.

 

2.5

P-04-348 Targedau ailgylchu ar gyfer byrddau iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor:
i ddisgwyl ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;
i ysgrifennu at y Byrddau Iechyd Lleol i holi eu barn am y mater.

 

2.6

P-04-349 Darpariaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg - Caerffili

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i holi ei farn am y ddeiseb.

 

2.7

P-04-350 Cadw’r gwasanaethau y mae Sporttrain yn eu darparu yn y Rhondda a Chaerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor:
i ddisgwyl ymateb gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau;
i holi barn yr holl bartneriaid, gan gynnwys cynghorwyr lleol ac arweinwyr cymunedol, Cymunedau yn Gyntaf; yr heddlu a’r Byrddau Diogelu Lleol
i anfon copi o’r ohebiaeth hon at Aelodau Cynulliad yr etholaeth a’r rhanbarth.

9.40-10.30

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-03-263 Rhestru Parc y Strade

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd eglurhad nad cae Parc y Strade oedd testun y cais ‘Village Green’, fel y nodwyd yn yr adroddiad diweddaru, ond ardal yn ystâd ehangach Parc y Strade.

 

Cytunodd y Pwyllgor:

i ddisgwyl am ganlyniadau ymgynghoriad Cadw, a ddisgwylir ym mis Ebrill 2012;
i ysgrifennu at y datblygwyr i holi eu barn.

 

3.2

P-03-306 Achub Theatr y Barri

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

3.3

P-04-335 Sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor:
i anfon llythyr atgoffa at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i holi ei farn am y ddeiseb;

y dylai’r tîm clercio lunio rhestr o wahoddedigion posibl i drafodaeth gyffredinol am y mater;

i ysgrifennu at gyrff chwaraeon nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr alwad am dystiolaeth i holi eu barn am y ddeiseb.

3.4

P-03-313 Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cwn) (Cymru) 2011

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor:

i gadw’r ddeiseb yn agored nes y cyhoeddir y rheoliadau diwygiedig;

i hysbysu’r deisebwyr nad oes fawr mwy y gall y Pwyllgor ei wneud ar hyn o bryd, ond y bydd yn dychwelyd at y mater ar ôl i’r rheoliadau gael eu cyhoeddi.

3.5

P-04-333 Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod drwy orfodi deddfwriaeth ar ddefnyddio microsglodion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Grŵp Trawsbleidiol ar y Ceffyl, yn gofyn iddo ystyried y ddeiseb hon.

10.30-11.00

4.

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - sesiwn dystiolaeth lafar

Tystion Llywodraeth Cymru

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Andrew Walker, Pennaeth yr Is-adran Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau)

Andrea Nicholas-Jones, Pennaeth Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn

Helen Howson, Uwch-gynghorydd Strategaeth Iechyd a Phennaeth Iechyd Cymunedol, Strategaeth a Datblygu



 

Cofnodion:

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Andrew Walker, Pennaeth yr Is-adran Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau, Llywodraeth Cymru
Andrea Nicholas-Jones, Pennaeth Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn, Llwyodraeth Cymru (P-03-221 Gwell Triniaeth Traed drwy’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol)
Alison Stroud, Cynghorydd Therapi i Gymru (P-03-221 Gwell Triniaeth Traed drwy’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol)
Lisa Dunsford, Dirprwy GyfarwyddwrGofal Sylfaenol, (P-03-222 Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol)

 

4.1

P-03-136 Parcio yn y Mynydd Bychan a Birchgrove

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datgannodd Joyce Watson fuddiant gan fod ei merch yn gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

 

Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan y Pwyllgor ar y mater hwn.

Oherwydd cyfyngiadau amser, penderfynodd y Pwyllgor ystyried tystiolaeth y Gweinidog yn ei gyfarfod nesaf er mwyn gallu ystyried y dair deiseb yn llawn.

 

4.2

P-03-221 Gwell triniaeth traed drwy'r GIG

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan y Pwyllgor ar y mater hwn.

Oherwydd cyfyngiadau amser, penderfynodd y Pwyllgor ystyried tystiolaeth y Gweinidog yn ei gyfarfod nesaf er mwyn gallu ystyried y dair deiseb yn llawn.

 

4.3

P-03-222 Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan y Pwyllgor ar y mater hwn.

Oherwydd cyfyngiadau amser, penderfynodd y Pwyllgor ystyried tystiolaeth y Gweinidog yn ei gyfarfod nesaf er mwyn gallu ystyried y dair deiseb yn llawn.

 

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

Nodwyd bapurau ynghylch y deisebau a ganlyn.

5.1

P-03-156 Dal Anadl wrth Gysgu

Dogfennau ategol:

5.2

P-03-205 Cadwch Farchnad Da Byw y Fenni

Dogfennau ategol:

5.3

P-03-144 Cŵn Tywys y Deillion - lle sy'n cael ei rannu

Dogfennau ategol:

Trawsgrifiad