P-04-350 Cadw’r gwasanaethau y mae Sporttrain yn eu darparu yn y Rhondda a Chaerdydd

P-04-350 Cadw’r gwasanaethau y mae Sporttrain yn eu darparu yn y Rhondda a Chaerdydd

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gadw’r gwasanaethau cymunedol hanfodol y mae Sporttrain yn eu darparu yn y Rhondda ac yn Grangetown, sef:

 

-         hyfforddiant gwaith i bobl ifanc;

-         hyfforddiant ymgysylltu i bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant;

-         dysgu cymunedol;

-         gwasanaethau lles, cymorth a chwnsela i bobl ifanc;

-         hyfforddiant chwaraeon a gweithgareddau cymunedol i bobl ifanc.

 

Prif ddeisebydd: Gareth Holohan

 

Nifer y deisebwyr: Tua 2,300

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;