P-03-313 Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cwn) (Cymru) 2011

P-03-313 Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cwn) (Cymru) 2011

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ymgynghori ymhellach â phobl sy’n bridio cwn fel hobi ac i beidio â gweithredu Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cwn) (Cymru) 2011 tan i’r gwaith hwn gael ei gwblhau.

 

Mae’n amlwg o’r gwaith o ddrafftio’r ddeddfwriaeth arfaethedig bod diffyg gwybodaeth sylfaenol am sefyllfa pobl sy’n bridio fel hobi yng Nghymru. Mae gan nifer ohonynt enw da ar lefel ryngwladol am fridio cwn iach sy’n addas at eu pwrpas. Roedd cyfansoddiad y pwyllgor a luniodd y ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn ddiffygiol o’r cychwyn gan nad oedd yn ystyried nifer y bobl sy’n bridio cwn fel hobi sy’n byw yng Nghymru. Mae’r holl bobl sy’n bridio fel hobi yn croesawu unrhyw ddull o atal bridwyr cwn diegwyddor rhag gweithredu. Ein dadl ni yw bod ychwanegu at y ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli ac na chaiff ei gorfodi’n effeithiol yn wrthgynhyrchiol o ran yr ymdrechion i gyfyngu ar weithgareddau bridwyr cwn didrwydded a’u harferion gresynus. Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynnal ymgynghoriad arall â’r rhai sy’n bridio cwn fel hobi ac i beidio â gweithredu'r Rheoliadau arfaethedig ynghylch Lles Anifeiliaid (Bridio Cwn( (Cymru) 2011 nes i’r ymgynghoriad ddod i ben.

 

Prif ddeisebydd:
Colin Richardson

 

Nifer y deisebwyr:
825

 

Trafodwyd y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23 Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda – Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/05/2016

Dogfennau