Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kathryn Thomas
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o'r cyfarfod. |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins.
Ni chafwyd dirprwy ar ei ran. |
||
(09.00-09.30) |
Deisebau newydd |
|
P-04-672 Dod â defnydd o'r Gymraeg i ben Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb
y deisebydd cyn trafod y ddeiseb ymhellach. |
||
P-04-673 Galw ar bob Plaid Wleidyddol Gymreig i Gynnig Popeth yn Ddwyieithog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb
y deisebydd cyn trafod y ddeiseb ymhellach. |
||
P-04-674 Dyfed, Dim Diolch Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae ef a'r deisebydd yn ddarpar ymgeiswyr i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru
ar gyfer rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru y Cynulliad. Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at
y Gweinidog yn gofyn ei farn ar sylwadau pellach y deisebydd. |
||
P-04-675 Talwch Gost y Dreth Ystafell Wely yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb
y deisebydd cyn trafod y ddeiseb ymhellach. |
||
P-04-676 Creu Pencampwr yr Iaith Gymraeg mewn Cymunedau yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb
y deisebydd cyn trafod y ddeiseb ymhellach. |
||
P-04-677 Mynediad Cyfartal i’r Iaith Gymraeg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at
y Gweinidog yn ceisio ei farn ar sylwadau pellach y deisebydd. |
||
P-04-678 Offer i Helpu Pobl Eiddil Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb
y deisebydd cyn trafod y ddeiseb ymhellach. |
||
P-04-679 Dileu'r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am ymateb
y deisebydd cyn trafod y ddeiseb ymhellach. |
||
(09.30-10.30) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-658 Derwen Brimmon Dogfennau ategol:
Cofnodion: ·
Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae wedi rhoi cyngor gweithdrefnol
i'r deisebwyr. ·
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunwyd i ysgrifennu at
Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gofyn ei barn am sylwadau pellach y
deisebydd ac yn benodol am: o
y ffens atal moch daear a fydd o bosibl yn peryglu'r gwreiddiau; o
y diffyg gwybodaeth ynghylch cofrestru'r goeden gyda Choed Cadw yn 2009; a o
natur yr 'ychydig waith' sydd ei angen yn yr ardal diogelu gwreiddiau 15
metr. |
||
P-04-565 Adfywio Hen Reilffyrdd Segur at ddibenion Hamdden Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog a chytunwyd i gau’r ddeiseb. |
||
P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth am y ddeiseb a chytunwyd i gau'r ddeiseb,
gan nad yw'n ymddangos yn debygol bod modd gwneud cynnydd yn ei chylch yn y
dyfodol agos. |
||
P-04-486 Gweithredu Nawr Er Mwyn Achub Siopau'r Stryd Fawr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunwyd i gau’r
ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunwyd
hefyd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer
y deisebydd ynghylch y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. |
||
P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd
William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae ef a'r deisebydd yn ddarpar ymgeiswyr i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru
ar gyfer rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru y Cynulliad. Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i'w chau. |
||
P-04-594 Apêl Cyngor Cymuned Cilmeri ynghylch y Gofeb i’r Tywysog Llywelyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae wedi rhoi cyngor gweithdrefnol i'r deisebwyr. Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i
hwyluso'r cyfarfod a gynigiwyd yn flaenorol rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru
a'r deisebwyr. |
||
P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol Dogfennau ategol: Cofnodion: Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 3.8. |
||
P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd William Powell y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n llywodraethwr ysgol. Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gadw golwg
ar y ddeiseb i ganiatáu i'r Pwyllgor Deisebau olynol ystyried a fydd angen
cymryd unrhyw gamau pellach bryd hynny. |
||
P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau a
chytunwyd i aros am ymateb mwy sylweddol gan y deisebydd. |
||
P-04-603 Helpu babanod sy’n cael eu geni ar ôl 22 wythnos i oroesi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Prif Swyddog Meddygol a chytunwyd i
gau’r ddeiseb, o ystyried cyfraniad y deisebydd yn natblygiad y canllawiau
wedi’u diweddaru ar y mater, a’r ffaith bod y ddeiseb wedi helpu i sicrhau bod
y materion anodd a sensitif iawn a godwyd gan y deisebydd yn cael sylw. |
||
P-04-456 Dementia – Gallai hyn ddigwydd i chi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunwyd i gau’r
ddeiseb. Wrth wneud hynny, diolchodd yr
Aelodau i'r deisebydd am gyflwyno'r ddeiseb ac fe hysbyswyd y deisebydd fod
modd cyflwyno deiseb arall yn y dyfodol, pe dymunai. |
||
P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd, a chan iddynt deimlo na
allent wneud rhagor i fynd â'r mater yn ei flaen, cytunwyd i gau'r
ddeiseb. Wrth wneud hynny, diolchodd yr
Aelodau i'r deisebydd am gyflwyno'r ddeiseb ac am eu helpu i ddeall y materion
sy'n gysylltiedig â'r ddeiseb. |
||
P-04-424: Cadw gwasanaethau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd, a chan iddynt deimlo na
allent wneud rhagor i fynd â'r ddeiseb yn ei blaen, cytunwyd i gau'r ddeiseb. |
||
P-04-624 Caniatáu i ofalwyr maeth gofrestru gyda mwy nag un awdurdod lleol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunwyd i gau’r
ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunwyd i
ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn iddo a yw
wedi cael cyngor gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar y
mater ac, os felly, i adael i'r Pwyllgor wybod y canlyniad. |
||
P-04-605 Achub Ffordd Goedwig Cwmcarn Rhag Cael ei Chau am Gyfnod Amhenodol neu’n Barhaol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd ac, yn unol â dymuniad y
deisebydd, cytunwyd i gau’r ddeiseb. |
||
P-04-343 Atal dinistrio mwynderau ar dir comin Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd, a chan iddynt deimlo na
allent wneud rhagor i fynd â'r ddeiseb yn ei blaen, cytunwyd i gau'r ddeiseb. |
||
(10.30-11.00) |
Deisebau y cynigir y dylid eu cau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunwyd i gau'r deisebau a nodir ar y
papur, ac eithrio P-04-617 Stopiwch y Troslgwyddo Dilyffethair o Lyfrgelloedd
Cyhoeddus i'r Sector Gwirfoddol. |