P-04-677 Mynediad Cyfartal i’r Iaith Gymraeg

P-04-677 Mynediad Cyfartal i’r Iaith Gymraeg

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Remigijus Šiaučiūnas ar ôl casglu 45 Llofnod.

 

Geiriad y ddeiseb

Dylai'r Gymraeg fod mor hygyrch â'r Saesneg. Yn anffodus, nid dyma'r sefyllfa. Rwyf yn siarad o brofiad. Rwyf wedi symud i Gymru, a hoffwn ddysgu o leiaf ychydig o Gymraeg. Mae dod o hyd i ddosbarth Saesneg sy'n rhad ac am ddim yn gymharol hawdd, ond mae'n amhosibl dod o hyd i ddosbarth Cymraeg sy'n rhad ac am ddim.

Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn datgan na ddylai unrhyw un gael ei drin yn llai ffafriol nag unrhyw un arall yn sgil ei genedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, crefydd, cred grefyddol neu athronyddol neu ddiffyg crefydd neu gred.

Dylai'r broses o ddysgu Cymraeg fod mor hygyrch â dysgu Saesneg i bawb, gan gynnwys mewnfudwyr cenhedlaeth gyntaf.

 

 Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Canol Caerdydd

·         Canol De Cymru

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/02/2016