P-04-678 Offer i Helpu Pobl Eiddil
P-04-678 Offer i Helpu Pobl Eiddil
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
|Maggie Macleod ar ôl casglu 23 Llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Ni allaf ddeall pam, ar ôl dwy
flynedd o apelio i'r bobl sydd â'r pŵer i ddatrys problemau, nad yw addasiad
bach wedi'i wneud er mwyn fy ngalluogi i, menyw 77 oed gydag anhawster symudedd
oherwydd arthritis yn y ddwy glun/ben-glin, deithio yn y car cymunedol. Nid oes
gan y ddau gar a brynwyd at y diben o helpu pobl hŷn a phobl anabl, y mae
eu hangen arnaf, ddolenni cydio fel y gall y teithiwr yn y sedd flaen fynd i
mewn i'r car. Mae fy ffeil o gysylltiadau'n cynnwys gwneuthurwr y car, a oedd
yn fwy na pharod i bostio dolenni cydio, ac roedd cwmni yng Nghaerdydd yn barod
i'w gosod (dwi'n siŵr bod arbenigwyr tebyg yn Abertawe!)
Rwyf felly yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn orfodol gosod
dolenni cydio mewn cerbydau a ddefnyddir mewn cynlluniau trafnidiaeth
cymunedol.
Gwybodaeth ychwanegol
Rwy'n fwy na pharod i dalu'r
gost o osod y dolenni cydio - gyda'r amcangyfrif yn £200. Felly, rwy'n gwneud
yr apêl hwn mewn ymdrech olaf i fy ngalluogi i ymweld â'r meddyg, sef fy prif
angen, a chael rhywfaint o gyswllt cymdeithasol. Ar hyn o bryd, mae fy
nghyswllt drwy'r rhyngrwyd ar gyfer siopa ac ati. Os yw'n ofynnol yn ôl y
gyfraith i dacsis masnachol gael dolenni cydio, yna dylai maen prawf tebyg fod
yn gymwys i geir cymunedol.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
·
Gŵyr
·
Gorllewin De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/02/2016