P-04-624 Caniatáu i Ofalwyr Maeth Gofrestru gyda Mwy Nag Un Awdurdod Lleol
Caniatáu i ofalwyr maeth gofrestru gyda mwy nag un
awdurdod lleol, a hynny er mwyn lleihau'r arian a werir yn ddiangen gan
awdurdodau lleol ar asiantaethau maethu annibynnol.
Mae rhai gofalwyr maeth
nad ydynt yn cael eu defnyddio'n llawn gan eu hawdurdod lleol, ac mae ganddynt
ystafelloedd gwag; hynny yw, mae'n bosibl eu bod wedi cofrestru i ofalu am ddau
blentyn sy'n derbyn gofal, ond dim ond un plentyn sydd wedi'i leoli gyda hwy.
Byddai'r cam hwn hyn yn eu galluogi i ddarparu lleoedd ar gyfer plant o
awdurdodau lleol cyffiniol lle mae gormod o blant, o bosibl, yn cael eu
cyflwyno i'r system gwasanaethau cymdeithasol at ddibenion derbyn gofal. Dyma'r
sefyllfa lle ceir diffyg cyfatebiaeth o ran y gyfundrefn gyllido – os nad oes
lle i blentyn gyda gofalwr maeth, bydd yr awdurdod lleol yn rhoi'r gwaith i
asiantaeth fabwysiadu annibynnol.
Gwybodaeth
ychwanegol
O ystyried adroddiad Williams, pan fydd cynghorau'n uno,
bydd unrhyw ofalwyr maeth sydd â lle, ar gael i awdurdodau cyffiniol os byddant
wedi cofrestru i wneud hynny. Byddai'r arbedion cychwynnol o weithredu system
gofrestru ddeuol gydag awdurdodau lleol cyn gweithredu'r cynllun uno yn torri
costau ymhellach, ac yn arwain at ofal sy'n gost-effeithiol ac sydd o ansawdd
uchel i blant sy'n cael eu cyflwyno i'r y system gofal ac sy'n derbyn gofal. Er
enghraifft, pe bai Blaenau Gwent a Thorfaen yn gweithredu system ddeuol o
gofrestru gofalwyr maeth, byddai hynny'n dyblu nifer y gofalwyr maeth a fyddai
ar gael i'w paru gyda phlentyn sy'n cael ei gyflwyno i'r system derbyn gofal.
(Mae sgiliau, argaeledd, lleoliadau presennol, a'r gallu i gludo plentyn i'r
ysgol i gyd yn rhan o'r broses baru). Felly, byddai hynny'n dileu'r angen i
ddefnyddio asiantaethau maethu annibynnol, sydd yn llawer drutach
Prif
ddeisebydd: John Watkins
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
Nifer
y llofnodion: 159 llofnod
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/03/2015