Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Naomi Stocks Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r Pwyllgor.
Nid oedd dim ymddiheuriadau. |
||
(09:00 - 09:10) |
P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr Aelodau
y sesiwn dystiolaeth ar 2 Gorffennaf, a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gan anfon copi
at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gwneud cais
i gynnwys y deisebydd mewn trafodaethau â rhanddeiliaid ynghylch datblygu’r fframwaith a thynnu sylw at y materion a godwyd yn y dystiolaeth lafar. |
|
(09:10 - 09:20) |
Deisebau newydd |
|
P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i; · ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gael ei farn am y ddeiseb; · ysgfrifennu at bob Bwrdd Iechyd Lleol yn holi am wybodaeth ychwanegol ynghylch darparu gwasanaethau; a · gwneud cais am bapur briffio gan y gwasanaeth ymchwil. |
||
P-04-495 Rhoi Terfyn ar Fasnachu mewn Pobl a Chaethwasiaeth yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i; · ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth i gael ei barn am y ddeiseb; ac · ystyried a yw’r Pwyllgor am gymryd tystiolaeth lafar y tro nesaf y bydd yn ystyried y ddeiseb. |
||
(09:20 - 10:00) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-483 Polisi Cymraeg Clir / Plain English ar gyfer pob cyfathrebiad y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i; ·
ysgrifennu
at y rhanddeiliaid a ganlyn
i gael eu barn am y mater o
Plain English Campaign; o
Uned
Cymraeg Clir yng Nghanolfan Bedwyr; ·
ysgrifennu
at y deisebydd i gael ymateb llawnach i’r ohebiaeth a gafwyd gan Lywodraeth
Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru; ac · unwaith y bydd yr ymatebion wedi dod i law, bydd y Cadeirydd yn ystyried ffurf ar gyfer sesiwn dystiolaeth lafar yn ystod tymor yr hydref. |
||
P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans yn Nhrefynwy Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch
y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gofyn iddo hysbysu’r
Pwyllgor pan fydd yn gwneud penderfyniad
yngylch ei Flaenraglen Waith, ac a fydd hyn yn
cynnwys ymchwiliad i wasanaethau ambiwlans. |
||
P-04-343 Atal dinistrio mwynderau ar dir comin - Ynys Môn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth
ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon yn tynnu
sylw at yr anawsterau y mae cymunedau lleol yn eu hwynebu
o ran diogelu tir comin, ac yn gofyn
pa gefnogaeth y gellir ei roi i’r
cymunedau hynny. Yn dibynnu ar y rhaglen
ddigwyddiadau, cytunodd y Pwyllgor i ymgorffori ymweliad â Llangoed fel rhan o’r
gweithgareddau allgymorth yn ystod tymor
yr hydref. |
||
P-04-385 Deiseb ar ryddhau balŵns a lanternau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor
yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at; · Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn gofyn a fydd unrhyw newid agwedd yn dilyn y tân diweddar yn Smethwick; a’r · Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn holi pa gamau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd ar y mater. |
||
P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynllun gwella’r A40 Llanddewi – Penblewin. |
||
P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd y Cadeirydd a Russell George fuddiant yn y ddeiseb hon. Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i; · aros am ganfyddiadau’r adolygiad o opsiynau; ac · ysgrifennu at y deisebydd yn ei hysbysu o ddatganiad diweddar Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. |
||
P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ailystyried: · y ddeiseb yng nghyd-destun papur briffio y Gwasanaeth Ymchwil; a’r · llythyr a anfonwyd at Weindog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i gael rhagor o wybodaeth ynghylch unrhyw faes na roddir ateb llawn yn ei gylch yn ei hymateb. |
||
P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Datganodd y Cadeirydd fuddiant yn y ddeiseb. Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gynnwys ymweliad â’r safle fel rhan o ymweliadau’r hydref. |
||
P-04-422: Ffracio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch
y ddeiseb a chutunodd i; ·
ysgrifennu
at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i holi faint o swyddogion sy’n ‘arbenigwyr’ ar ffracio a lefel
yr arbenigedd sydd ar gael
i Lywodraeth Cymru; ·
ysgrifennu
at y Pwyllgor Amgylchedd a chynaliadwyedd yn holi am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y sesiwn dystiolaeth ddiweddar ar nwy
anghonfensiynol; ac ·
ysgrifennu
at y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig yn tynnu sylw
at ystyriaethau’r Pwyllgor o’r materion hyn. |
||
P-04-461 Achub Pwll Padlo Pontypridd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd y Cadeirydd fuddiant yn y ddeiseb. Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb am fod y pwll wedi cael ei ystyried ar gyfer ei restru ar dair achlysur ac nad oedd wedi bodloni’r meini prawf. |
||
P-04-480 Mynd i'r afael â Safon Tai Myfyrwyr yn y Sector Preifat Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i; ·
Ysgrifennu at y rhanddeiliaid a ganlyn i gael eu
barn am y mater: o
Accreditation Network UK o
Addysg
Uwch Cymru o
Association of Letting and Management
Agents o
Cartrefi
Cymunedol Cymru o
CLlLC
/ Cymdeithas y Cyfarwyddwyr
Addysg o
Cymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl o
Cymdeithas
Genedlaethol Landlordiaid o
Cyngor ar Bopeth o
Cyngor
Ceredigion o
Cynllun
Achredu Landlordiaid o
Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig o
Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd o
Shelter Cymru o
Undeb
Cenedlaethol y Myfyrwyr o
Y Sefydliad Tai Siartredig; ac o
ymgynghoriad
ysgrifenedig llawn ar agor i’r
cyhoedd, yn canolbwyntio ar ymgysylltu â myfyrwyr ·
ysgrifennu
at y Gweinidog Tai ac Adfywio
yn tynnu sylw at bryderon y deisebwyr, yn arbennig
o ran yr amser a roddwyd i’r Bil
Tai; a ·
threfnu
sesiwn dystiolaeth lafar unwaith y bydd yr ymatebion
wedi dod i law. |
||
Gwariant a Refeniw'r Llywodraeth yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid yn tynnu sylw at ohebiaeth y deisebydd a gofyn a fydd gwybodaeth refeniw yn cael ei rhyddhau. |
||
P-04-478 Pecyn gwybodaeth syml i bawb yng Nghymru yn esbonio sut y gallant sefyll fel ymgeisydd Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i; o
ysgrifennu
at y rhanddeiliaid a ganlyn
i gael eu barn am y mater: o
Cymdeithas
Cynghorwyr; o
Un Llais Cymru; o
Y Comisiwn Etholiadol; o
Y Gymdeithas
Diwygio Etholiadol; o
ceisio
cael eglurder ynghylch a fyddai Comisiwn y Cynulliad yn gallu gwneud
sylw ac, os felly, beth yw ei
farn; a o
phennaeth
staff pob plaid wleidyddol sydd wedi cofrestru
yng Nghymru |
||
P-04-482 Hysbysfyrddau cyhoeddus ar draws Cymru i roi gwybod i’r cyhoedd pwy yw eu cynrychiolwyr gwleidyddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i; o
ysgrifennu
at y rhanddeiliaid a ganlyn
i gael eu barn am y mater: o
Un Llais Cymru; o
Y Comisiwn Etholiadol; o
Y Gymdeithas
Diwygio Etholiadol; a o
cheisio
cael eglurder ynghylch a fyddai Comisiwn y Cynulliad yn gallu gwneud
sylw ac, os felly, beth yw ei
farn. |
||
(10:00 - 10:30) |
P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig: Sesiwn dystiolaeth Dr Tymandra
Blewett-Silcock, Prif Ddeisebydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Atebodd y Dr Tymandra Blewett-Silcock gwestiynau gan y Pwyllgor. |
|
(10:30 - 10:45) |
P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig: Trafod y sesiwn dystiolaeth Cofnodion: Trafododd yr Aelodau y sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i; · ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn a fydd adolygiad o Daliadau Uniongyrchol; · ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn tynnu sylwa at y materion cyn cynnal gwaith craffu pellach ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru); · casglu rhagor o astudiaethau achos am y mater dan sylw; ac · ystyried a ddylid cymryd rhagor o dystiolaeth yn ystod tymor yr hydref. |