Eitemau
Amseriad disgwyliedig |
Rhif |
Eitem |
|
Trawsgrifiad
|
1. |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r Pwyllgor. Ni chafwyd
ymddiheuriadau.
|
2. |
Deisebau newydd
|
2.1 |
P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu
at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn ceisio ei barn am y
ddeiseb.
Cynigiodd
Joyce Watson ei bod yn cwrdd â’r deisebwyr, yng nghyd-destun ymweliad â
Meirionnydd yn ei rhanbarth hi, ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor.
|
2.2 |
P-04-476 Ailstrwythuro Amgueddfa Cymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i
ysgrifennu at;
·
Y Gweinidog
Diwylliant a Chwaraeon; ac
·
Amgueddfa Cymru yn ceisio eu barn am y ddeiseb
|
2.3 |
P-04-477 Cefnogi'r Bil Rheoli Cŵn (Cymru)
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i
ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn ceisio ei farn am y
ddeiseb.
Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor ei
fod wedi bod i gyfarfodydd ar bwnc y ddeiseb a drefnwyd gan Julie Morgan AC a’r
deisebwr.
|
3. |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
|
3.1 |
P-03-150 Safonau Canser Cenedlaethol
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y
ddeiseb a chytuno i rannu gwybodaeth y deisebwr â’r Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol gan amlygu’r meysydd i’w gwella a nodwyd, a gofyn sut
y mae’n bwriadu gweithredu ar y rhain.
|
3.2 |
P-04-396 Sgiliau Triniaeth Cynnal Bywyd Brys i Blant Ysgol
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y
ddeiseb a chytuno i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn holi a
roddwyd unrhyw ystyriaeth i sefydlu hyfforddiant sgiliau triniaeth cynnal bywyd
brys yn rhan graidd o Fagloriaeth Cymru.
|
3.3 |
P-04-424 Cadw gwasanaethau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i
aros am lansiad yr ymgynghoriad ar wasanaethau gofal iechyd yn Ne Cymru, ac
edrych eto ar y ddeiseb yn wyneb y cynigion ar gyfer Castell-nedd Port Talbot.
|
3.4 |
P-04-450 Mae Angen Ysbyty Cwbl Weithredol ar y Barri a Bro Morgannwg
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i
geisio barn y deisebwr am yr ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol
Caerdydd a’r Fro.
|
3.5 |
P-04-361 Pas bws am ddim i fyfyrwyr o dan 25 oed sydd mewn addysg llawn amser
Dogfennau ategol:
|
3.6 |
P-04-371 Tocynnau teithio rhatach ar drafnidiaeth gyhoeddus i bob plentyn hyd at 18 oed
Dogfennau ategol:
|
3.7 |
P-04-382 Costau teithio i fyfyrwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor y deisebau a chytuno i’w
cau yn wyneb y gwaith blaenorol a wnaed ar y deisebau. Ni chafwyd ymateb gan y deisebwr.
|
3.8 |
P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i;
·
ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth
a Thrafnidiaeth yn holi am ragor o wybodaeth am sut mae Llywodraeth Cymru’n
bwriadu ailystyried ei hopsiynau ar hyd cefnffyrdd Cymru gan rannu’r ohebiaeth
gan Gyngor Powys; a
·
gofyn am frîff ymchwil ar
gytundebau rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i hwyluso gweithio
tawsffiniol.
|
3.9 |
P-04-409 Enwau Cymraeg i bob cefnffordd newydd yng Nghymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i
gau’r ddeiseb yn wyneb yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, gan nodi nad yw’n bosibl ailenwi cefnffyrdd.
|
3.10 |
P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i
ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth gan ofyn a
fyddai modd i’r Pwyllgor gael y wybodaeth ddiweddaraf
am ddatblygiadau ar y mater.
|
3.11 |
P-04-438 Hygyrchedd wrth Siopa
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytuno i;
·
ysgrifennu at St Davids Dewi Sant yn gofyn am y
wybodaeth ddiweddaraf am ei strategaeth arwyddion gan ei fod yn ymwneud â thoiledau
Changing Places;
·
ysgrifennu at Gyngor Caerdydd yn amlygu’r pryderon
ynghylch rhwystrau ar lwybrau cyhoeddus, parcio a chroesfannau ffordd; a
·
cheisio brîff
cyfreithiol ar y ddeiseb, o ran cymhwysedd y Cynulliad.
|
3.12 |
P-04-343 Atal dinistrio amwynderau ar dir comin - Ynys Môn
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i
ysgrifennu at Gyngor Ynys Môn yn ceisio ei farn am y ddeiseb ac yn holi pam na weithredwyd ar hyn ac a yw’n teimlo bod digon wedi ei
wneud i ddiogelu tir comin.
|
3.13 |
P-04-465 Achub llaeth Cymru, a seilwaith a swyddi’r diwydiant
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i
geisio barn y deisebwr am ohebiaeth y Gweinidog.
|
3.14 |
P-04-427 Cyfraith newydd ynghylch y Gymraeg
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i
gau’r ddeiseb yn wyneb yr ymatebion gan y Gweinidog a Chomisiynydd y Gymraeg sy’n
awgrymu nad oes deddfwriaeth newydd ar y ffordd.
|
3.15 |
P-04-432 Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor yr ymatebion i’r gwaith ymgynghori a
wnaed ar y ddeiseb a chytuno i gael tystiolaeth lafar.
|
3.16 |
P-04-467 Arholiadau ym mis Ionawr
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i;
·
rannu datganiad y Gweinidog gyda’r deisebwyr; ac
·
ysgrifennu at y
Gweinidog Addysg a Sgiliau yn gofyn a fyddai modd i’r Pwyllgor gael gwybod pan
fydd penderfyniad wedi ei wneud ar asesiadau mis Ionawr.
|
4. |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Cofnodion:
|
5. |
Trafod y Flaenraglen Waith
Cofnodion:
Ystyriodd yr Aelodau’r flaenraglen waith.
|