Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Cyswllt: Naomi Stocks  Deputy Clerk: Sarita Marshall

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09:00

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau.

 

09:00 - 09:10

2.

P-03-150 Safonau Canser Cenedlaethol - Trafodaeth o'r dystiolaeth weinidogol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i anfon copi o’r trawsgrifiad at y deisebwyr er mwyn iddynt roi sylwadau arno.

 

09:10 - 09:20

3.

Deisebau newydd

3.1

P-04-439 : Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy er mwyn gofyn am ei farn.

 

3.2

P-04-440 : Dywedwch ‘Na’ i werthu asedau Ysbyty Bronllys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf.

Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn adnabod rhai o’r deisebwyr a bod aelodau o’i deulu wedi llofnodi’r ddeiseb.

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor ei fod wedi cael gohebiaeth yn ddiweddar yn nodi bod pythefnos ychwanegol wedi’i neilltuo ar gyfer y cyfnod ymgynghori ar gynigion y bwrdd iechyd.

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i ofyn am eu barn ar y ddeiseb ac i ofyn pryd y gwneir y penderfyniad terfynol ar y cynigion. 

 

3.3

P-04-441 : Gwaith i Gymru - Work for Wales

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, a thrafododd yr egwyddor o’r Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn deisebau gan bleidiau gwleidyddol, neu is-blaid wleidyddol. Cytunodd y Pwyllgor i drafod yn y flwyddyn newydd y mater ehangach o’r ffordd y derbynir deisebau.

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Sgiliau i ofyn am ei farn ar destun y ddeiseb.

 

3.4

P-04-442 : Sicrhau cymorth da i blant anabl a'u teuluoedd sy’n agos i’w cartrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn ar y ddeiseb a gofyn a allai’r Bil drafft gynnwys egwyddor ‘darparu’n lleol’.

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i hysbysu’r Gweinidog y gall ei wahodd i roi tystiolaeth lafar mewn cyfarfod yn y dyfodol. Nodwyd os mai dyma’r achos, byddai Scope Cymru yn cael ei wahodd i roi tystiolaeth hefyd.

 

09:20 - 11:00

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

4.1

P-04-424: Cadw gwasanaethau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Ddeoniaeth i ofyn a yw materion staffio yn ysgogi’r gwaith o ad-drefnu gwasanaethau, a pha ystyriaethau a roddir i’r effaith o dynnu’n ôl 2 Feddyg Craidd Hyfforddedig ar y gwasanaeth.

 

4.2

P-04-346 Gofal di-dâl i blant 3 a 4 oed yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r ddeiseb a chytunodd i ofyn am gadarnhâd cyn gynted â phosibl gan Lywodraeth Cymru ar yr amserlen ar gyfer cynnal ymchwiliad pellach i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar ar draws awdurdodau lleol.

 

4.3

P-04-427: Cyfraith newydd ynghylch y Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth weinidogol mewn cysylltiad â’r ddeiseb a chytunodd i ofyn yn ffurfiol am farn y deisebydd ar yr ohebiaeth.

 

4.4

P-04-383 Yn erbyn dynodiad Parth Perygl Nitradau ar gyfer Llyn Llangors

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth weinidogol mewn cysylltiad â’r ddeiseb a chytunodd i’w hanfon ymlaen at y deisebwyr i roi sylwadau.

 

4.5

P-04-417 Achubwch Draeth Morfa ac ataliwch Lwybrau Troed Cyhoeddus 92 a 93 rhag cau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth weinidogol mewn cysylltiad â’r ddeiseb a chytunodd i’w hanfon ymlaen at y deisebwyr i roi sylwadau.

 

4.6

P-04-422: Ffracio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Daeth gohebiaeth i law’r Pwyllgor mewn cysylltiad â’r ddeiseb a chytunodd y Pwyllgor i:

Ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn a yw awdurdodau cynllunio lleol yn teimlo bod y canllaw cynllunio presennol yn ddigon clir ar fater ffracio;

Rhannu ymateb y deisebwyr â’r Gweinidog;

Ysgrifennu at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i ofyn a yw’n bwriadu cynnal unrhyw waith pellach mewn cysylltiad â ffracio, yn dilyn ei ymchwiliad i gynllunio a pholisi ynni.

4.7

P-04-423: Cartref Nyrsio Brooklands

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r ddeiseb.

Dywedodd y Cadeirydd a Joyce Watson eu bod yn gwrthwynebu’r cynigion am safle amwynder dinesig a bod hwy neu eu staff wedi ymweld â Chartref Nyrsio Brooklands i siarad â phreswylwyr a staff am y mater.

Dywedodd Joyce Watson ei bod wedi cael gohebiaeth ar y mater gan Gyngor Sir Benfro, ac y bydd yn ei rhannu â’r Pwyllgor.

Cytunodd y Pwyllgor i rannu’r ohebiaeth a gafwyd gan y deisebwyr â Chyngor Sir Penfro ac i ofyn am ymateb i’r pryderon a godwyd yn yr ohebiaeth honno.

4.8

P-03-263 Rhestru Parc y Strade

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r ddeiseb a chytunodd i aros i’r adroddiad ar ddiogelu treftadaeth chwaraeon yng Nghymru gael ei gyhoeddi.

 

4.9

P-04-322 Galw am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth weinidogol mewn perthynas â’r ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn pryd fydd penderfyniad yn cael ei wneud o ran sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen, ac i ofyn i’r Pwyllgor gael gwybod am y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o ddatblygu’r grŵp hwnnw.

 

4.10

P-04-403 Achub Plas Cwrt yn Dre/ Hen Senedd-Dy Dolgellau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r ddeiseb a chytunodd i ofyn yn ffurfiol am farn y deisebydd arni.

4.11

P-04-420 Adeiladu Cofeb i Owain Glyndŵr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd arni, gan gynnwys a yw’r deisebwyr wedi ystyried ariannu cofeb o’r fath drwy roddion preifat.

4.12

P-03-301 Cydraddoldeb i’r gymuned drawsryweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor diweddariad gan Lywodraeth Cymru ar adolygiad y polisi Dysfforia Rhywedd Cymru a chytunodd i ofyn am farn y deisebwyr ar yr adroddiad terfynol.  

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Glerc am ei gwaith ar y Pwyllgor Deisebau.

Trawsgrifiad