P-04-420 Adeiladu Cofeb i Owain Glyndŵr
P-04-420 Adeiladu Cofeb i Owain Glyndŵr
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adeiladu Cofeb i Owain Glyndŵr , ar raddfa a rhwysg
Cofeb William Wallace yn
Stirling, yr Alban.
Mae amryw o leoliadau
a fyddai’n addas gan gynnwys Corwen
a Machynlleth, i enwi dim ond dau. Os
gall Llywodraeth Cymru, yn ôl y sôn, fod yn cynllunio i ailaddurno cyntedd bloc swyddfeydd Aelodau’r Cynulliad sy’n costio 200k , yna credwn y gall Llywodraeth Cymru fuddsoddi swm o arian hyd
yn oed yn
fwy mewn adeiladu Cofeb i Owain Glyndŵr,
sef Tywysog Brodorol Olaf Cymru . Ar ôl ei gwblhau, byddai’n
rhoi lleoliad y Gofeb ar y map gan ddod â chyllid, y mae cymaint o’i angen, i mewn o dwristiaeth gan roi hwb
pellach i ddelwedd Cymru.
Felly byddai pawb yn elwa.
Prif ddeisebydd: Russell Gwilym
Morris
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 2 Hydref
2012
Nifer y llofnodion: 74
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;