Cyfarfodydd
NDM7384 Member Debate under Standing order 11.21 (iv)v- Universal Basic Income (UBI)
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 30/09/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 30/09/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 30/09/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Aelod o dan Rheol Sefydlog 11.21 (iv) Incwm Sylfaenol Cyffredinol
NDM7384 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) y niwed y mae
tlodi'n ei wneud i gyfleoedd bywyd ac nad yw gwaith bellach yn llwybr
gwarantedig allan o dlodi;
b) bod y pandemig wedi
gorfodi mwy o bobl i mewn i dlodi gyda niferoedd cynyddol o breswylwyr yn
gorfod troi at gymorth elusennol fel banciau bwyd;
c) yr oedd twf y DU,
hyd yn oed cyn y pandemig, yn wael a'n bod yn wynebu'r her gynyddol o
awtomeiddio, sy'n gosod niferoedd cynyddol o swyddi mewn perygl;
d) bod incwm sylfaenol
cyffredinol yn rhoi mwy o reolaeth i bobl dros eu bywydau, yn lleddfu tlodi ac,
yn ogystal, yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl;
e) y byddai incwm
sylfaenol cyffredinol yn creu swyddi ac yn annog pobl i fanteisio ar gyfleoedd
hyfforddi;
f) bod incwm sylfaenol
cyffredinol yn rhoi'r lle i bobl gymryd mwy o ran yn eu cymuned a chefnogi eu
cymdogion.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru:
a) i sefydlu treial
incwm sylfaenol cyffredinol yng Nghymru;
b) i lobïo Llywodraeth
y DU am gyllid i sefydlu incwm sylfaenol cyffredinol ledled Cymru.
Cefnogwyr
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.27
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7384 Jack Sargeant (Alun a
Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) y niwed y mae tlodi'n
ei wneud i gyfleoedd bywyd ac nad yw gwaith bellach yn llwybr gwarantedig allan
o dlodi;
b) bod y pandemig wedi
gorfodi mwy o bobl i mewn i dlodi gyda niferoedd cynyddol o breswylwyr yn
gorfod troi at gymorth elusennol fel banciau bwyd;
c) yr oedd twf y DU, hyd
yn oed cyn y pandemig, yn wael a'n bod yn wynebu'r her gynyddol o awtomeiddio,
sy'n gosod niferoedd cynyddol o swyddi mewn perygl;
d) bod incwm sylfaenol
cyffredinol yn rhoi mwy o reolaeth i bobl dros eu bywydau, yn lleddfu tlodi ac,
yn ogystal, yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl;
e) y byddai incwm
sylfaenol cyffredinol yn creu swyddi ac yn annog pobl i fanteisio ar gyfleoedd
hyfforddi;
f) bod incwm sylfaenol
cyffredinol yn rhoi'r lle i bobl gymryd mwy o ran yn eu cymuned a chefnogi eu
cymdogion.
2. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru:
a) i sefydlu treial
incwm sylfaenol cyffredinol yng Nghymru;
b) i lobïo Llywodraeth y
DU am gyllid i sefydlu incwm sylfaenol cyffredinol ledled Cymru.
Cefnogwyr
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
10 |
13 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.22 cafodd y
cyfarfod ei atal dros dro gan y Cadeirydd.