NDM8812 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diogelu iechyd ymladdwyr tân
NDM8812 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diogelu iechyd ymladdwyr tân
NDM8812 Luke
Fletcher (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod diffodd tanau yn gwneud unigolion yn agored i ddod i gysylltiad â
deunydd carsinogenaidd, gan gynnwys benzene a toulene, sy'n
cynyddu cyfraddau marwolaethau yn sylweddol ymhlith diffoddwyr tân o gymharu â'r boblogaeth gyffredinol;
b) gwaith Asiantaeth Ryngwladol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ymchwil ar
Ganser a'u dosbarthiad o ganser ymhlith diffoddwyr tân fel perygl
galwedigaethol Grŵp 1;
c) bod gwledydd fel yr Unol Daleithiau, Canada ac Awstralia wedi cydnabod yn
swyddogol y cysylltiad rhwng cysylltiad â deunydd gwenwynig a mwy o achosion o ganser;
a
d) ymgyrch 'DECON' Undeb y Brigadau Tân a'i hymdrechion hanfodol i helpu
diffoddwyr tân i leihau eu cysylltiad niweidiol â halogion.
2. Yn cydnabod canfyddiadau ymchwil wyddonol dan arweiniad yr Athro Anna Stec
yng Nghanolfan y Gwyddorau Tân a Pheryglon, Prifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn,
a gomisiynwyd gan Undeb y Brigadau Tân, sy'n datgelu bod diffoddwyr tân rhwng
35 a 39 oed a arolygwyd yn wynebu cyfradd canser sy'n benodol i oedran hyd at
323 y cant yn uwch na'r boblogaeth gyffredinol yn yr un grŵp oedran.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cydweithio gydag Undeb y Brigadau Tân, gwasanaethau tân ac achub, ac
arbenigwyr blaenllaw ym maes tocsicoleg tân i liniaru effeithiau deunydd carcinogenig ar ddiffoddwyr tân yng Nghymru;
b) sefydlu rhaglen iechyd ataliol i fonitro a chofnodi cysylltiadau ar gyfer
pob diffoddwr tân yng Nghymru, gan gynnwys sgrinio canser blynyddol fel safon
ofynnol; ac
c) alinio Cymru ag arferion gorau rhyngwladol o ran diogelu iechyd diffoddwyr tân.
Cyd-gyflwynwyr
Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru)
Jane
Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Peredur
Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Rhys
ab Owen (Canol De Cymru)
Samuel
Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Cefnogwyr
Delyth
Jewell (Dwyrain De Cymru)
Hefin
David (Caerffili)
Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
Joel
James (Canol De Cymru)
Sioned
Williams (Gorllewin De Cymru)
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/05/2025