Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 192(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/02/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Mae’r Llywydd wedi
cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Dirprwy Weinidog Tai a
Llywodraeth Leol yn ateb cwestiynau ar ran y Gweinidog. Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.17 Atebwyd y cwestiynau gan y Dirprwy Weinidog Tai a
Llywodraeth Leol Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd
y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Dirprwy Weinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Dirprwy Weinidog
yr Economi a Thrafnidiaeth Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith penderfyniad Honda i gau eu
ffatri’n Swindon ar y gadwyn gyflenwi yng Nghymru? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.06 Gofyn i Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith penderfyniad Honda i gau eu
ffatri’n Swindon ar y gadwyn gyflenwi yng Nghymru? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.26 Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad am - Talu
teyrnged i Paul Flynn AS Gorllewin Casnewydd a fu farw yr wythnos hon. |
|||||||||||||||||||||||||
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5 munud) Dechreuodd yr eitem am 15.28 NDM6977 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Dai Lloyd (Plaid
Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn
lle Helen Mary Jones (Plaid Cymru). Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar yr adroddiad ar berthynas Cymru â Phwyllgor y Rhanbarthau yn y dyfodol NDM6942
Mick
Antoniw (Pontypridd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r adroddiad
ac argymhellion yn ymwneud â pherthynas Cymru â Phwyllgor y Rhanbarthau yn y
dyfodol. 2. Yn cydnabod
pwysigrwydd perthynas barhaus rhwng Cymru a Phwyllgor y Rhanbarthau. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gefnogi sefydlu Comisiwn ar y cyd rhwng Pwyllgor y Rhanbarthau
a'r Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau deialog barhaus a chydweithredu rhwng
Pwyllgor y Rhanbarthau a'r Cynulliad ac awdurdodau lleol Cymru ar ôl i'r DU
ymadael â'r UE. Mick Antoniw AC a
Bethan Sayed AC, ‘Wales’ future relationship with the Committee of the Regions’
- rhoddwyd copi yn Llyfrgell yr Aelodau ar 18 Ionawr 2019. Cyd-gyflwynwyr Dogfen Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.28 NDM6942 Mick
Antoniw (Pontypridd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r adroddiad
ac argymhellion yn ymwneud â pherthynas Cymru â Phwyllgor y Rhanbarthau yn y
dyfodol. 2. Yn cydnabod
pwysigrwydd perthynas barhaus rhwng Cymru a Phwyllgor y Rhanbarthau. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gefnogi sefydlu Comisiwn ar y cyd rhwng Pwyllgor y Rhanbarthau a'r
Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau deialog barhaus a chydweithredu rhwng Pwyllgor y
Rhanbarthau a'r Cynulliad ac awdurdodau lleol Cymru ar ôl i'r DU ymadael â'r UE. Mick Antoniw AC a Bethan
Sayed AC, Wales’ future relationship with the Committee of the Regions’ -
rhoddwyd copi yn Llyfrgell yr Aelodau ar 18 Ionawr 2019. Cyd-gyflwynwyr Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Busnes Pawb: Adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru NDM6974
Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, sef Busnes Pawb: Adroddiad ar Atal
Hunanladdiad yng Nghymru, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2018. Nodyn: Gosodwyd
ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ionawr 2019. Dogfen
Ategol Llythyr
gan y Llywydd ynghylch Atal Hunanladdiad yng Nghymru - 7 Chwefror 2018 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.59 NDM6974
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, sef Busnes
Pawb: Adroddiad ar Atal Hunanladdiad yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5
Rhagfyr 2018. Yn unol â Rheol
Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig hwn. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Teithio Llesol NDM6947
Huw
Irranca-Davies (Ogwr) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) bod gan bobl ifanc yng
Nghymru rai o'r lefelau gweithgarwch corfforol isaf yn y Deyrnas Unedig, sy'n
cyfrannu at lefelau cynyddol o ordewdra a materion iechyd cysylltiedig megis
diabetes math 2; b) bod nifer o
gymunedau yng Nghymru yn dioddef o lefelau anghyfreithlon o uchel o lygredd
aer, gydag un gymuned yn profi'r ansawdd aer gwaethaf y tu allan i Lundain; c) amcangyfrifir bod
cost tagfeydd ar y ffyrdd yn £2 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn; d) nid yw targedau ar
gyfer allyriadau carbon o drafnidiaeth yng Nghymru wedi'u cwrdd o gwbl; e) mae lefelau cerdded
a beicio yng Nghymru yn dirywio, ac un pryder arbennig yw bod lefelau teithio
llesol i'r ysgol yn disgyn; ac f) gellid gwella pob
un o'r materion hyn pe bai Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn cael ei
gweithredu'n effeithiol. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i adnewyddu ei huchelgais am deithio llesol yng Nghymru trwy
lunio strategaeth teithio llesol gynhwysfawr, gan gynnwys targedau uchelgeisiol
a chynllun manwl ar gyfer buddsoddi hirdymor mewn seilwaith teithio llesol. Deddf
Teithio Llesol (Cymru) 2013 Cyd-gyflwynwyr Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.13 NDM6947
Huw
Irranca-Davies (Ogwr) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi: a)
bod gan bobl ifanc yng Nghymru rai o'r lefelau gweithgarwch corfforol isaf yn y
Deyrnas Unedig, sy'n cyfrannu at lefelau cynyddol o ordewdra a materion iechyd
cysylltiedig megis diabetes math 2; b)
bod nifer o gymunedau yng Nghymru yn dioddef o lefelau anghyfreithlon o uchel o
lygredd aer, gydag un gymuned yn profi'r ansawdd aer gwaethaf y tu allan i
Lundain; c)
amcangyfrifir bod cost tagfeydd ar y ffyrdd yn £2 biliwn i economi Cymru bob
blwyddyn; d)
nid yw targedau ar gyfer allyriadau carbon o drafnidiaeth yng Nghymru wedi'u
cwrdd o gwbl; e)
mae lefelau cerdded a beicio yng Nghymru yn dirywio, ac un pryder arbennig yw
bod lefelau teithio llesol i'r ysgol yn disgyn; ac f)
gellid gwella pob un o'r materion hyn pe bai Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013
yn cael ei gweithredu'n effeithiol. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu ei huchelgais am deithio llesol yng
Nghymru trwy lunio strategaeth teithio llesol gynhwysfawr, gan gynnwys targedau
uchelgeisiol a chynllun manwl ar gyfer buddsoddi hirdymor mewn seilwaith
teithio llesol. Deddf Teithio Llesol
(Cymru) 2013 Cyd-gyflwynwyr Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu Ysgolion NDM6975
Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r fformiwla
asesu seiliedig ar ddangosydd (IBA) ar gyfer 'gwasanaethau ysgolion' ar hyn o
bryd, sy'n cyfrifo faint o arian sydd ei angen ar bob awdurdod lleol yn
genedlaethol i'w wario ar ei ysgolion. 2. Yn cydnabod: a) diffyg tryloywder
yn y fformiwla IBA a phenderfyniadau dilynol awdurdodau lleol o ran ariannu
ysgolion; a b) y dryswch ymysg y
cyhoedd ynghylch sut y caiff ysgolion unigol eu hariannu drwy awdurdodau lleol,
consortia rhanbarthol a grantiau penodol Llywodraeth Cymru. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i lunio dull dealladwy o werthuso a chyfleu effeithiolrwydd
holl ffrydiau ariannu ysgolion, yn arbennig; a) eu heffaith ar
gyrhaeddiad a deilliannau eraill dysgwyr; b) cymorth a
datblygiad staff; c) safonau ysgolion; a d) cyflawni yn erbyn
amcanion polisi ehangach Llywodraeth Cymru. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1 - Rebecca
Evans (Gŵyr) Dileu’r cyfan a rhoi
yn ei le: 1. Yn nodi bod
fformiwlâu asesu seiliedig ar ddangosydd (IBA) cyfredol ar gyfer 'gwasanaethau
ysgolion' yn modelu angen cymharol awdurdodau i wario ar wasanaethau ysgolion,
o ystyried y cyllid sydd ar gael a chan ragdybio ynghylch y dreth gyngor a
blaenoriaethau gwario. 2. Yn croesawu’r
canllawiau ‘Cyllid ar gyfer ysgolion’, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n egluro’r
trefniadau cyllido ysgolion. 3. Yn cydnabod bod
holl ganllawiau Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ynghylch cyllido a pholisi
yn cefnogi cyflawni yn unol â chynllun gweithredu ‘Cenhadaeth ein Cenedl’ i
godi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad, a sicrhau system addysg y mae gan y
cyhoedd hyder ynddi. Canllawiau
Cyllid ar gyfer Ysgolion Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.59 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6975 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r fformiwla asesu seiliedig ar ddangosydd (IBA) ar gyfer
'gwasanaethau ysgolion' ar hyn o bryd, sy'n cyfrifo faint o arian sydd ei angen
ar bob awdurdod lleol yn genedlaethol i'w wario ar ei ysgolion. 2. Yn cydnabod: a) diffyg tryloywder yn y fformiwla IBA a phenderfyniadau dilynol
awdurdodau lleol o ran ariannu ysgolion; a b) y dryswch ymysg y cyhoedd ynghylch sut y caiff ysgolion unigol eu
hariannu drwy awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a grantiau penodol
Llywodraeth Cymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio dull dealladwy o werthuso a
chyfleu effeithiolrwydd holl ffrydiau ariannu ysgolion, yn arbennig; a) eu heffaith ar gyrhaeddiad a deilliannau eraill dysgwyr; b) cymorth a datblygiad staff; c) safonau ysgolion; a d) cyflawni yn erbyn amcanion polisi ehangach Llywodraeth Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gŵyr) Dileu’r cyfan a rhoi yn
ei le: 2. Yn croesawu’r canllawiau ‘Cyllid ar gyfer ysgolion’, a gyhoeddwyd yn
ddiweddar, sy’n egluro’r trefniadau cyllido ysgolion. 3. Yn cydnabod bod holl ganllawiau Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol
ynghylch cyllido a pholisi yn cefnogi cyflawni yn unol â chynllun gweithredu
‘Cenhadaeth ein Cenedl’ i godi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad, a sicrhau
system addysg y mae gan y cyhoedd hyder ynddi. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: 1. Yn nodi bod
fformiwlâu asesu seiliedig ar ddangosydd (IBA) cyfredol ar gyfer 'gwasanaethau
ysgolion' yn modelu angen cymharol awdurdodau i wario ar wasanaethau ysgolion,
o ystyried y cyllid sydd ar gael a chan ragdybio ynghylch y dreth gyngor a
blaenoriaethau gwario. 2. Yn croesawu’r
canllawiau ‘Cyllid ar gyfer ysgolion’, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n egluro’r
trefniadau cyllido ysgolion. 3. Yn cydnabod bod holl
ganllawiau Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ynghylch cyllido a pholisi yn
cefnogi cyflawni yn unol â chynllun gweithredu ‘Cenhadaeth ein Cenedl’ i godi
safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad, a sicrhau system addysg y mae gan y
cyhoedd hyder ynddi.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.50 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6973
Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cartrefi i'n Harwyr: A
ydym yn diwallu anghenion cartrefu ein cyn-filwyr? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.52 NDM6973
Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cartrefi
i'n Harwyr: A ydym yn diwallu anghenion cartrefu ein cyn-filwyr? |